Casnewydd 1-1 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd wedi cael gêm gyfartal adref yn erbyn Caergrawnt yn Adran 2.
Roedd y gêm ar Rodney Parade yn ddi-sgôr drwy'r hanner cyntaf, ond sgoriodd Luke Chadwick yn fuan yn yr ail hanner i roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Ac roedd hi'n ymddangos mai Caergrawnt fyddai'n ennill y dydd, tan i Robbie Willmott sgorio i Gasnewydd yn y 90 munud.
Yn dilyn y canlyniad hwn mae Casnewydd yn y 19eg safle ac mae Caergrawnt bellach yn y 11eg safle.