Ailddewis Nigel Evans fel ymgeisydd Ceidwadol
- Cyhoeddwyd

Mae Nigel Evans AS wedi ei ailddewis i sefyll fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol yn y Ribble Valley yn yr etholiad cyffredinol flwyddyn nesaf.
Cafodd Mr Evans, 56 oed, ei ddewis mewn pleidlais gudd yn ystod cyfarfod yn Clitheroe, Swydd Gaerhirfryn gydag aelodau o'r Gymdeithas Geidwadol leol.
Roedd Mr Evans wedi gadael ei swydd fel dirprwy lefarydd Tŷ'r Cyffredin ac wedi ildio chwip y Blaid Geidwadol, gan olygu ei fod wedi cynrychioli'r etholaeth fel aelod annibynnol, wrth iddo wynebu nifer o honiadau yn ymwneud â throseddau rhyw.
Cafodd rheithgor Mr Evans yn ddi-euog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Ail-ymunodd â'r Blaid ym mis Ebrill, a derbyniodd chwip y Blaid Geidwadol yn ôl yn yr un mis.
Mae Nigel Evans, cafodd ei eni yn Abertawe, wedi cynrychioli etholaeth y Ribble Valley ers 1992.
Straeon perthnasol
- 28 Ebrill 2014
- 10 Ebrill 2014