John Owen yn pledio'n euog i 17 o gyhuddiadau
- Published
image copyrightBBC news grab
Mae cyn grwner Sir Gâr, John Owen, wedi pledio'n euog i 17 o gyhuddiadau o ddwyn a chadw cyfrifon ffug yn ymwneud â chyfanswm o dros £1 miliwn.
Fe wnaeth John Owen, 79 oed, ddwyn yr arian o ystad cleient - John James Williams - wrth weithio fel cyfreithiwr yn Llandeilo dros nifer o flynyddoedd.
Ef oedd ysgutor ewyllysiau ac roedd yn codi tâl am waith nad oedd wedi ei gwblhau.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Hydref 17, a dywedodd y barnwr fod dedfryd o garchar yn debygol.
Cafodd Owen ei wahardd o'i waith fel cyfreithiwr nôl ym Medi 2011.
Ymddiswyddodd fel crwner ar Medi 30, 2011 a chafodd ei arestio gan yr heddlu ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Medi 2011