Dyn o Gymru wedi ei ladd gan siarc yn Awstralia

Paul Wilcox Image copyright his own website
Image caption Roedd wedi byw yn Awstralia am fwy na 10 mlynedd.

Mae cyn-ddisgybl Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, wedi cael ei ladd gan siarc yn Awstralia.

Roedd Paul Wilcox, 50 oed, wedi bod yn nofio yn y môr yn Ne Cymru Newydd adeg yr ymosodiad tua 10:40 amser lleol ddydd Mawrth.

Roedd wedi byw yn Awstralia am fwy na 10 mlynedd.

Cafodd ei dynnu o'r dŵr i gael triniaeth gan barafeddygon ond roedd eisoes wedi marw.

Dywedodd ei rieni, Marie a Bryan Wilcox o Lanfihangel Glyn Myfyr, Conwy, fod eu mab yn byw breuddwyd ers symud i Awstralia.

'Addoli'

Roedd y ddau wedi siarad â Paul oriau cyn iddo gael ei ladd.

"Mi oeddwn i yn ei addoli," meddai'r fam. "Dwi am i bawb wybod hynny. A dweud y gwir, doedd dim gair croes ers iddo fod yn oedolyn."

Dywedodd fod ei mab yn "deyrngar iawn."

"Mi oedd yn fendith fod ei farwolaeth fwy na thebyg yn gyflym ... mi wnaeth o farw wrth wneud yr hyn yr oedd am ei 'neud.

"Mi oedd yn fab hapus a hyfryd ... mae wedi marw ond alla i ddim derbyn bod hyn wedi digwydd."

Image copyright ABC News/Elloise Farrow-Smith
Image caption Digwyddodd ymosodiad y siarc ddydd Mawrth oddi ar draeth yn Byron Bay, Awstralia
Image copyright Westpac Life Saver Rescue
Image caption Dywedodd llygad-dystion eu bod wedi gweld siarc "chwech neu saith troedfedd o hyd" yn y dŵr