Morgannwg â brwydr o'u blaenau
- Cyhoeddwyd

Roedd Footitt ar dân unwaith eto i Sir Derby
Swydd Dderby sydd â'r mantais wedi diwrnod cyntaf y chwarae yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.
Roedd y tim cartref mewn dyfroedd dyfnion ar un adeg pan oedden nhw 158-6 ond llwyddodd Chris Cooke (74) a Graham Wagg (62) i sicrhau cyfanswm o 91 ar y seithfed wiced.
Tony Palladino a Mark Footitt oedd yn arwain y ffordd i'r ymwelwyr wrth iddyn nhw gael tair wiced yr un.
Cafodd batwyr Morgannwg eu bowlio am 282 mewn 90.1 pelawd.
Mi ddechreuodd yr ymwelwyr fatio cyn diwedd y chwarae, wyth rhediad heb golli wiced.
Sgôr ddiweddaraf (ar diwedd y diwrnod cyntaf):
Morgannwg (batiad cyntaf): 282 pawb allan;
Sir Derbi (batiad cyntaf): 8-0 (3 phelawd)