Bristol Rovers 1 - 0 Wrecsam

Andy Monkhouse Image copyright Getty Images
Image caption Monkhouse oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm

Mae Wrecsam wedi syrthio i'r seithfed yn y Gyngres wedi iddyn nhw golli yn erbyn Bristol Rovers.

Fe beniodd Andy Monkhouse groesiad Dave Martin i gefn y rhwyd wedi 34 munud gan siomi cefnogwyr y Dreigau oedd yn meddwl mai eu tîm nhw oedd yn chwarae orau.

Doedd dim modd yn ôl i Wrecsam wedi i Mark Carrington dderbyn cerdyn coch am dacl flêr ar Adam Cunnington wedi 63 munud.

Roedd y canlyniad yn siom i Wrecsam a byddan nhw eisiau rhoi'r gêm tu ôl iddyn nhw cyn chwarae Welling ddydd Sadwrn.