Tîm Cymru: Dathlu wedi Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd

B'nawn Mercher, mae 'na ddathliad ym Mae Caerdydd i anrhydeddu aelodau Tîm Cymru, yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.
Fe gipiodd y garfan 36 medal yn Glsagow 2014 - y nifer mwyaf erioed.
Fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "'Dy ni mor falch o Dîm Cymru a'i llwyddiannau anhygoel".
Mae'r adloniant yn dechrau am 17:00 cyn i'r athletwyr gymryd rhan mewn parêd toc wedi 18:00.
Yr uchafbwyntiau
Ymysg uchafbwyntiau'r gemau i'r tîm, roedd y fedal aur gyntaf i nofwraig o Gymru, sef Jazz Carlin yn y ras 800m dull rhydd.
Yna, fe ddilynodd Georgia Davies gan ennill y ras dull cefn.
Roedd Frankie Jones ymysg sêr disgleiria'r gemau - gan ennill chwe medal (pump arian ac un aur) - cyn iddi ymddeol yn 23 oed.
Yn ogystal, cafodd Frankie wobr David Dixon am ysbrydoli eraill yn y gemau.
Ychydig ddyddiau wedi iddo gwblhau'r Tour de France - fe gyrhaeddodd Geraint Thomas Glasgow a chipio dwy fedal - efydd yn y ras ffordd, ac aur yn y ras unigol yn erbyn y cloc.
Straeon perthnasol
- 6 Awst 2014