Cerddwraig 70 oed mewn cyflwr difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae cerddwraig 70 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 4:30 b'nawn ddoe ar yr A40 tu allan i Ysbyty Neuadd Neville yn Y Fenni.

Mae'n derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae gyrrwr car Skoda wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol