Cynlluniau i ailddatblygu safle ysbyty HM Stanley
- Cyhoeddwyd

Yn 2012 cafodd y triniaethau llygaid olaf eu cynnal yno, pan symudodd y gwasanaeth i Ysbyty Glan Clwyd
Mae cynlluniau i ailddatblygu safle Ysbyty HM Stanley wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorwyr yn Sir Ddinbych.
Mae swyddogion yn argymell y dylai datblygiad 85 o gartrefi fynd yn ei flaen ar safle'r hen wyrcws Fictoraidd yn Llanelwy.
Mae Pure Residential yn bwriadu creu cymysgedd o unedau byw yn yr adeiladau ysbyty ac adeiladu tai ar y tir.
Yn 2012 cafodd y triniaethau llygaid olaf eu cynnal yno, pan symudodd y gwasanaeth i Ysbyty Glan Clwyd.