'Diffyg cefnogaeth' i bobl yng Nghymru gyda dementia
- Cyhoeddwyd

Yn ôl adroddiad gan y Gymdeithas Alzheimer's dim ond un o bob pump o bobl Cymru sydd â'r clefyd sy'n teimlo eu bod nhw'n derbyn digon o gefnogaeth gan y llywodraeth
Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu strategaeth dementia newydd.
Mae'r elusen eisiau gweld diagnosis cyflymach a mwy o arian ar gyfer gofal yn y gymuned.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw "raglen gynhwysfawr" ar gyfer gwella gwasanaethau.
Adroddiad y Gymdeithas
Mae adroddiad y Gymdeithas Alzheimer's, Cyfle am Newid, wedi darganfod bod dros hanner pobl Cymru gyda dementia wedi teimlo'n bryderus neu'n isel yn ddiweddar.
Mae ail adroddiad, o'r enw Dementia UK, sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mercher, yn dweud y bydd mwy na 45,000 o bobl gyda dementia yng Nghymru erbyn y flwyddyn nesaf, a 850,000 ar draws y DU.
Mae'r astudiaeth gafodd ei baratoi gan y London School of Economics a Choleg y Brenin, Llundain wedi amcangyfrif bod y clefyd yn costio £26 biliwn i'r DU bob blwyddyn - ac mae dau draean o'r gost yn syrthio ar y rheiny sy'n dioddef o ddementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Yng Nghymru, dywedodd 54% o bobl nad oedd eu gofalwr yn derbyn help gyda'u rôl yn gofalu.
Astudiaeth achos
Cafodd gŵr Jackie Askey, George, ddiagnosis o ddementia fasgwlaidd yn dilyn strôc saith mlynedd yn ôl.
Dywedodd bod y gefnogaeth yn dda, ond ei bod hi wedi gorfod mynd i chwilio amdano.
"Roedd yn rhaid i mi wneud lot fawr o ymdrech ar y cychwyn. Gwnaethon ni ofyn os oedd na rhywbeth y gallwn ni wneud er mwyn gwella ei gof ac aeth o ar gwrs, ac wedyn gesh i wybod am gwrs, ond wnaeth hynny ddim digwydd yn syth. Mi gymerodd amser hir," meddai.
"Rydw i dal i gyfarfod pobl sy'n dweud 'tydw i ddim yn gwybod beth i'w wneud na lle i droi'."
Dywedodd mai un o'r pethau oedd wedi bod mwyaf gwerthfawr iddi oedd derbyn cefnogaeth gan ei meddyg teulu.
"Mae angen i chi allu mynd i weld eich meddyg yn eithaf rheolaidd, ac roeddan ni'n lwcus iawn. Os ydw i angen cael gafael ar y meddyg, fedra i alw'r feddygfa a bydd y meddyg yn fy ngalw'n ôl. Rydw i'n trio peidio gwneud hynny'n rhy aml ond mae'n gallu bod yn debyg i gael plentyn ifanc. Tydach chi ddim yn gallu gofyn beth sy'n bod."
Diagnosis
Dywedodd Sue Phelps, cyfarwyddwr y Gymdeithas Alzheimer's yng Nghymru, bod y nifer o bobl yng Nghymru gyda dementia yn golygu cost ariannol a chost ddynol anferth.
Wrth siarad â Radio Wales dywedodd: "Beth sydd ei angen ydi sicrhau bod y bobl yma yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw er mwyn gallu byw'n dda."
Dywedodd bod gweledigaeth genedlaethol y llywodraeth o ran Alzheimer's yn "gam yn y cyfeiriad cywir" ond awgrymodd nad oedd digon o adnoddau wedi eu rhoi i'r cynllun hwnnw.
Yn ôl Ms Phelps mae'r gyfradd diagnosis yng Nghymru yn wael iawn i'w chymharu ag ardaloedd eraill yn y DU, a bod angen cynnydd sylweddol, gyda "thargedau clir".
Yn ogystal dywedodd y dylai arian gael ei drosglwyddo o'r GIG i ofal cymdeithasol oherwydd bod dau draean o bobl gyda dementia yn byw yn y gymuned.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "rhaglen gynhwysfawr" eisoes mewn lle er mwyn gwella gwasanaethau cefnogi dementia a'u bod nhw wedi buddsoddi £130 miliwn mewn cyfleusterau iechyd meddwl newydd ar gyfer yr henoed ar draws Cymru.
Yn ôl y llywodraeth maen nhw'n rhoi'r pwyslais ar ddiagnosis a thriniaeth gynnar a chydweithio rhwng byrddau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, a hynny er budd pobl gyda dementia.
Straeon perthnasol
- 16 Ebrill 2014