Trafod effaith refferendwm yr Alban ar Gymru

  • Cyhoeddwyd
Fflagiau

Bydd rhai o ffigyrau amlycaf Cymru yn trafod pa effaith all refferendwm annibyniaeth yr Alban gael ar Gymru mewn cynhadledd arbennig ddydd Iau.

Pwrpas y gynhadledd yng Nghaerdydd, sy'n cael ei chynnal gan y Sefydliad Materion Cymreig, yw gofyn 'Beth am Gymru?', a thrafod yr effeithiau posib ar Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn dilyn pleidlais hanesyddol yr Alban.

Yn annerch y gynhadledd yng Nghanolfan y Mileniwm fydd y cyn ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, Gerry Holtham, yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ac arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, a Phlaid Cymru, Leanne Wood.

Cynllun Undeb Sy'n Newid sy'n noddi'r gynhadledd, ac yn ôl eu cadeirydd, mae'r gynhadledd yn "gyfle pwysig" i drafod.

Dyfodol i Gymru

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones: "Gall unrhyw un sydd wedi ymweld â'r Alban yn ddiweddar dystio bod yna sgyrsiau eang iawn yn digwydd ar draws y gymdeithas yn yr Alban am sut all a sut ddylai'r wlad honno gael ei llywodraethu.

"Dros y dair blynedd diwethaf mae'r cynllun Undeb Sy'n Newid wedi dod ag amrywiaeth fawr o wahanol bobl a safbwyntiau yng Nghymru ac ardaloedd eraill o'r DU i drafod sut mae ein cyfansoddiad yn datblygu.

"Mae'r gynhadledd yr wythnos yma yn gyfle pwysig i ni feddwl am beth fydd y dyfodol i Gymru."

Bydd siaradwyr eraill yn cynnwys y newyddiadurwr Simon Jenkins, cyn weinidog addysg Cymru, Leighton Andrews, a'r cyn aelod seneddol ac awdur, yr Athro David Marquand.

Bydd siaradwyr yn dadansoddi'r polau piniwn diweddaraf cyn edrych ar effeithiau posib y refferendwm ar Gymru, a chynllun 'devo-max' posib i Gymru yn y dyfodol.

Gallwch ddarllen y diweddaraf o'r gynhadledd drwy gydol y prynhawn ar BBC Cymru Fyw.