Gwaharddiad gwirfoddol ar werthiant e-sigarennau dan 18

  • Cyhoeddwyd
E sigaret

Mae cais i berchnogion siopau yn Sir Benfro ymuno a chynllun i beidio â gwerthu e-sigarennau i bobl dan 18 oed.

Does dim cyfyngiad cyfreithiol ar werthu'r dyfeisiau i bobl ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond mae'r cyngor am i siopau ymuno a'i gynllun, ac arddangos arwydd i ddangos eu bod yn cymryd rhan.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi croesawu'r cynllun, gan ddweud y bydd yn helpu i berswadio pobl ifanc i beidio ysmygu.

'Cam positif'

Cyngor Sir Penfro yw'r cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cynllun o'r fath.

10 o fusnesau sydd wedi ymuno hyd yn hyn, gan gynnwys CKs Foodstores yn Arberth.

Dywedodd Alun Littlejohns o'r cwmni bod cynllun y cyngor yn "gam positif".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn poeni bod e-sigarennau yn normaleiddio ysmygu, a gall eu defnydd arwain at bobl ifanc yn dechrau ysmygu.

Dywedodd y Cynghorydd Huw George, aelod cabinet y cyngor dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoli: "Yn Sir Benfro rydyn ni'n credu bod angen gwneud pob ymdrech i atal ein pobl ifanc rhag datblygu dibyniaeth ar nicotin neu ysmygu.

"Mae'r cynllun yma yn gam enfawr yn y cyfeiriad cywir i atal ein pobl ifanc rhag dechrau ysmygu."