Glastir: 'wedi dysgu gwersi ond parhau yn ddiffygiol'
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn dweud bod methiannau amlwg yng nghynllun Glastir Llywodraeth Cymru i ffermwyr.
Mae'n dweud bod y cynllun amaeth amgylcheddol yn well na'r rhai blaenorol ond rhybuddiodd yr archwilydd bod y niferoedd sy'n ei weithredu lawer is na'r targed.
Yn ôl yr adroddiad tydi'r mesurau ar gyfer gwerthuso llwyddiant y cynllun heb gael eu datblygu hyd yn hyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad ac yn derbyn nifer o'r sylwadau sydd wedi eu gwneud.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario £119 miliwn ar gynllun Glastir erbyn diwedd 2015 ac erbyn 31 Rhagfyr 2013 roedd y llywodraeth wedi gwneud taliadau grant o ychydig dan £22 miliwn.
Argymhellion
Yn ei adroddiad mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi gwneud nifer o argymhellion er mwyn ceisio gwella'r cynllun:
- Sicrhau bod tirddeiliaid sy'n cael arian grant yn ymrwymo i wneud newidiadau sylweddol i'w harferion rheoli tir sy'n helpu'n uniongyrchol i gyflawni amcanion Glastir.
- Pennu targedau ar gyfer Glastir sy'n heriol ond yn gyflawnadwy.
- Egluro maint y gwelliannu y mae'n disgwyl i Glastir eu sicrhau, erbyn pryd a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at amcanion ehangach.
- Monitro costau gweinyddu Glastir yn rheolaidd.
- Sicrhau cyfnod pontio didrafferth i geisiadau ar-lein yn unig i Glastir.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: 'Mae Glastir wedi adlewyrchu rhai o'r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau amaeth-amgylchedd blaenorol.
"Fodd bynnag, fel y dengys fy adroddiad a chanfyddiadau adolygiadau blaenorol o'r cynllun, mae modd gwella cynllun Glastir a'r modd y caiff ei weinyddu.
"Mae'r nifer sydd wedi gwneud cais i ymuno â Glastir yn llawer llai na'r hyn a ragwelwyd gan Lywodraeth Cymru ac nid yw mesurau i helpu i werthuso llwyddiant cyffredinol y cynllun wedi cael eu datblygu eto.'
'Gwendidau sylweddol'
Mae Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymateb i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Glastir drwy ddweud:
"Wrth gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu rhai gwersi o'i phrofiad blaenorol o reoli cynlluniau amaeth-amgylchedd, mae'r adroddiad hwn yn amlinellu gwendidau sylweddol yn y modd mae'n gweithredu Glastir.
"Mae'r lefel o ddefnydd, ynghyd â'r diffyg realaeth ymddangosiadol mewn rhai agweddau o broses gosod targedau'r Llywodraeth, yn siomedig. Yn ogystal, mae'r ffaith nad oes meini prawf llwyddiant clir yn bodoli yn golygu y bydd hi'n anodd asesu effaith gyffredinol y cynllun.
"Ond yn fwy sylfaenol, gallai gwerth ychwanegol Glastir fod yn amheus os bydd rhai deiliaid tir yn cael cyllid grant pan nad yw'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud newidiadau sylweddol i'w harferion rheoli tir.
"Yn ei adroddiad ar gynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal ym mis Medi 2008, gwnaeth Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru [fel yr oedd ar y pryd] argymhellion ynghylch y ddau fater hyn ac mae'n destun gofid nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn llawn â'r materion hynny yng ngyd-destun cynllun Glastir."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol:
"Yn gyffredinol rydym yn croesawu'r adroddiad sy'n nodi bod Glastir wedi gwella ar gynlluniau amaeth-amgylchedd blaenorol a bod taliadau Glastir wedi eu targedu'n well ac yn fwy effeithiol wrth sicrhau buddion amgylcheddol.
"Rydym yn derbyn llawer o'r sylwadau yn yr adroddiad, yn enwedig yr argymhellion i osod targedau mesuradwy ar gyfer y cynllun ac adolygu llwyddiant y newid i geisiadau ar-lein."
Straeon perthnasol
- 3 Gorffennaf 2012