Person wedi marw mewn tân yng Nghastell-nedd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru a'r gwasanaethau tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd wedi i ddyn farw mewn tân mewn tŷ yng Nghastell-nedd a ddigwyddodd ychydig cyn 7yb ddydd Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ ar Ffordd Llundain am tua 07:00 fore Iau.
Nid yw corff y dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ac mae'r heddlu'n parhau gyda'u hymholiadau er mwyn ceisio darganfod ei berthynas agosaf.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei drefnu unwaith mae'r broses adnabod ffurfiol wedi ei chwblhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Trudi Meyrick o Heddlu Castell-nedd Port Talbot: "Rydym yn parhau i ymchwilio ar y cyd i achos y tân ac ar hyn o bryd rydym yn ei drin fel tân sydd heb ei egluro.
"Dydyn ni heb ddarganfod perthynas agosaf y dyn ac rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn adnabod y dyn oedd yn byw yn y tŷ neu ei deulu a'i ffrindiau i gysylltu â'r heddlu."
Gall unrhyw un gyda gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.