The Gathering/Yr Helfa: Drama ar droed yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Taith gerdded theatrigal? Drama ar droed? Rhai ffyrdd, efallai, o ddisgrifio cynhyrchiad diweddara' National Theatre of Wales (NTW), sy'n benllanw tair blynedd o arsylwi fferm ddefaid yn Eryri.
Mae The Gathering/Yr Helfa yn bortread pwerus o flwyddyn ym myd ffermio defaid a chylch bywyd bugail.
Mae'r gwaith wedi'i seilio ar waith tair blynedd yn arsylwi bywyd yn Hafod y Llan, fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth droed Yr Wyddfa, yn Nant Gwynant.
Y fferm honno fydd y llwyfan, gyda'r gynulleidfa yn mynd ar daith gerdded yn ystod y perfformiad.
Louise Ann Wilson sydd wedi creu a chyfarwyddo'r cynhyrchiad, sy'n cynnwys barddoniaeth newydd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yn ogystal â chyflwyniadau sain a ffilm.
Bu Siwan Llynor, un o gyfarwyddwyr y cynhyrchiad, ac Arwyn Owen, rheolwr Hafod y Llan, yn trafod y prosiect gyda BBC Cymru.
Pam defnyddio'r fath leoliad?
Meddai Siwan Llynor: "Pam lai? Pam ddim? Mae National Theatre Wales yn enwog am greu darnau yn unrhyw le."
Ac mae hynny'n ddigon gwir, mae NTW eisoes wedi perfformio ar hyd strydoedd y Bermo a Phort Talbot, ar draeth ym Mhrestatyn ac ar dir y fyddin ym Mannau Brycheiniog, ond dyma'r tro cyntaf iddyn nhw berfformio ar fferm.
Ond beth fydd hynny'n golygu i'r gynulleidfa?
Yn ôl Siwan: "Bydd hwn yn gynhyrchiad eitha' gwahanol. Mae'n cael ei ddisgrifio fel taith drawiadol, greadigol. Bydd gosodiadau ar hyd y fferm a'r mynydd.
"Bydd yn rhaid i'r gynulleidfa fod yn barod i gerdded dipyn i fyny'r mynydd, a defnyddio eu synhwyrau i gyd.
"Bydd yn rhaid i'r gynulleidfa ddefnyddio eu dychymyg."
Beth mae'r ffermwr yn meddwl bod ei dir yn cael ei ddefnyddio fel theatr?
Meddai Arwyn Owen: "Mae hi wedi bod yn brofiad diddorol ofnadwy.
"Roedd Louise Wilson wedi dod allan efo ni dair blynedd yn ôl i gychwyn ac ers hynny mae hi wedi bod yn dilyn ni allan pan rydan ni'n hel, wyna a gwerthu'r defaid - cyn iddi ddatblygu'r syniad ym mhellach."
A beth mae o wedi'i ddysgu o'r profiad?
"Rydan ni'n gwneud be rydan ni'n wneud o ddydd i ddydd gan ei gymryd o'n ganiataol. Dyna ydi patrwm natur a phatrwm ffermio.
"Ond mae hi'n ddiddorol gweld pobl yn dod i mewn ac yn dehongli hynny a myfyrio ar beth rydan ni'n wneud.
Blwyddyn ar fferm fynydd yw'r prif thema, ac yn ehangach na hynny, cylch natur?
"O ran cylch natur, rydan ni'n gorfod byw efo fo, a gweithio efo fo. Ond yn y cynhyrchiad maen nhw'n edrych ar beth ydi wir effaith hynny, sut mae natur yn effeithio arnon ni a Hafod y Llan. Sut mae'n effeithio ar beth rydan ni'n wneud a pham rydan ni'n ei wneud o."
"Mae rhai pethau tydi rhywun ddim yn meddwl sy'n ddiddorol o ddydd i ddydd, yn ddiddorol i gynulleidfa ehangach.
"Mae'n gyfle i bobl ddod i weld a deall beth rydan ni'n wneud, a deall pwysigrwydd ein traddodiadau."
Pwy sy'n rhan o'r sioe?
Er mai cynhyrchiad Saesneg, gan gwmni theatr cenedlaethol Saesneg Cymru yw The Gathering/ Yr Helfa, mae'r cast - Ffion Dafis, Gwyn Vaughan Jones, Aled Sion, Emyr Gibson a Meilir Rhys Williams - i gyd yn Gymry-Cymraeg, ac mae Siwan yn dweud ei fod yn "Gymraeg iawn oherwydd natur y pwnc".
Bydd cynrychiolaeth leol gref hefyd yn y cynhyrchiad wrth i fand pres Deiniolen gymryd rhan ynghyd â disgyblion Ysgol Gynradd Beddgelert.
Er na fydd Arwyn yn actio yn y cynhyrchiad, bydd yn un o'r wyth bugail sy'n cymryd rhan wrth iddyn nhw hel 200 o ddefaid lawr o'r mynydd.
Ac mae Siwan yn rhagweld mai Arwyn a'r bugeiliaid fydd "sêr y sioe".
Mae'r cynhyrchiad yn cael ei gynnal rhwng dydd Gwener, 12 Medi a dydd Sul, 14 Medi, am 12:00.