Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Beth sy'n digwydd? Does dim syniad 'da fi, ond bydd yn gyffrous.
Geiriau Leighton Andrews yn Golwg, wrth edrych ymlaen at refferendwm yr Alban yr wythnos nesa - ac mae'n go debyg y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno - fel dywed Will Patterson yn Barn, mae ngreddf i'n dweud wrtha i am ddisgwyl yr annisgwyl.
Doedd Menna Elfyn ddim wedi bwriadu sôn am y refferendwm yn ei cholofn yn y Western Mail, ond mae hithau'r wythnos hon wedi bod yn gwrando yn arbennig ar yr ieithwedd sy'n cael ei defnyddio i ddisgrifio Prydain - mae David Cameron nawr yn sôn am golli aelod o 'deulu' meddai, er na fuon nhw yn poeni rhyw lawer cyn hyn.
Yn sydyn rydym ni'n 'family of nations', rhywbeth sydd heb ei ddefnyddio tan yn ddiweddar gan y penteulu yn San Steffan.
A rhywbeth diweddar yw unrhyw ddiddordeb gan David Cameron yn y refferendwm, yn ôl Blog Menai.
Ychydig wythnosau yn ôl doedd ganddo ddim hyd yn oed ddigon o ddiddordeb i wylio'r dadleuon teledu rhwng Salmond a Darling, meddai, ond erbyn hyn mae wedi ploncio Saltire ar ben ei dŷ - yn union fel mae llawer o gefnogwyr yr ymdrech Ia yn yr Alban yn ei wneud.
Ac mae Ed Milliband bellach yn caru'r Alban i'r fath raddau mae eisiau gweld ei baner yn cyhwfan uwchben trefi Lloegr, er ei fod dros y penwythnos wrthi'n bygwth anfon y fyddin i'r ffin pe bai'r Alban yn ennill annibyniaeth.
Yn ôl blog Menai, mae prif wleidyddion Lloegr (a Chymru) wedi colli eu pwyll yn dilyn cyhoeddi cwpl o bolau piniwn anffafriol o'u safbwynt nhw, gyda diffyg diddordeb llugoer yn cael ei drawsnewid yn banig lloerig mewn amrantiad.
Yn ôl Dylan Iorwerth yn Golwg, truenus ydi'r unig air i ddisgrifio ymdrechion y garfan Na i droi'r llif dros annibyniaeth. Desbret yw'r Ceidwadwyr meddai i beidio â chael eu gweld yn colli'r Alban; desbret ydi'r Blaid Lafur Brydeinig i beidio â cholli'r holl bleidleisiau yno.
Hyd yn oed os na fydd yr ymgyrch Ie yn llwyddo, meddai Menna Elfyn, tebyg na fydd Prydain na'r teulu unedig yr un fath eto.
Ac er nad oes ganddo yntau ddim clem beth sy'n debygol o ddigwydd ar y deunawfed, mae Vaughan Roderick yn ei flog yn dweud yn bendant y bydd canlyniadau'r ysgytwad i ddosbarth gwleidyddol San Steffan yn parhau am flynyddoedd i ddod, a dywed mai'r newid agwedd yn San Steffan yw'r hyn sy'n bwysig o safbwynt Cymru.
Ac mae Dylan Iorwerth yn cytuno - beth bynnag a ddaw ymhen wythnos meddai, hyd yn oed efo Na mi fydd y bleidlais Ie yn rhy fawr i'r pleidiau Prydeinig allu anwybyddu eu haddewidion.
Fel y dywed Leighton Andrews, mae pleidiau San Steffan wedi argymell pwerau newydd i'r Alban. Mae'n amlwg y bydd rhaid iddyn nhw, yn y dyfodol, gynnig yr un pwerau i Gymru a Gogledd Iwerddon hefyd.
Ond, meddai Leighton, mae'n rhaid i ni yng Nghymru benderfynu a ydyn ni eisiau eu defnyddio nhw, neu fel y dywed Vaughan, y cwestiwn sydd angen ei ofyn nawr yw ydy arweinwyr gwleidyddol Cymru yn ddigon medrus i fanteisio ar y cyfleoedd sydd i ddod?
Fe ddaw adeg, medd Menna, pan mae'n rhaid i'r penteulu adael i'w blant hedfan y nyth. Ac ymddiried ynddynt i fod yn ddoeth. Gwaetha'r modd, dal i gropian y mae Cymru, fel chwaer fechan.
Fel y dywed Vaughan ar ddiwedd ei flog - Fe gawn weld.
Mae adolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch bob bore Gwener.