Gwagio swyddfeydd treth Llanisien wedi pecyn amheus

Uned difa bomiau Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency

Cafodd miloedd o weithwyr yn adeiladau'r llywodraeth yn Llanisien eu symud o'i gwaith yn dilyn rhybudd diogelwch fore Iau.

Yn ôl yr heddlu cafodd pecyn amheus ei ddinistrio, ac roedd Heol Tŷ Glas ar gau am oriau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi bod y digwyddiad wedi dechrau am tua 09:45.

Mae tua 2,500 o bobl yn gweithio yn y swyddfa dreth, ac mae rhai sydd â chyfrifoldebau gofal plant wedi cael gadael.

Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency
Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency