Meddyg o Gymru yn trafod yr argyfwng Ebola yn Liberia
- Cyhoeddwyd

Mae dros 2,300 o bobl wedi marw yng Ngorllewin Affrica wrth i feirws Ebola ledaenu.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhybuddio y gall miloedd o achosion newydd o feirws Ebola ddatblygu yn Liberia yn yr wythnosau nesaf, tra bod Gweinidog Amddiffyn y wlad yn dweud bod y feirws yn fygythiad i fodolaeth cenedlaethol y wlad.
Un sydd wedi bod yn Liberia yn ddiweddar yw'r Gymraes Dr Alice Clack sy'n wreiddiol o Garmel, ger Y Groeslon yng Ngwynedd.
Buodd hi'n rhannu ei phrofiadau ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru:
Pam wnes di benderfynu mynd i Liberia?
"O'n i 'di gweithio yn Liberia yn 2009, felly o'n i'n dysgu nhw sut i wneud pethau fel caesaeriansection, a ges i siawns i fynd yno efo prosiect newydd i hyfforddi dwy fydwraig, ac oedd o'n swnio'n brosiect diddorol a phrosiect pwysig hefyd, achos does 'na ddim digon o feddygon yn Liberia.
"Does 'na ddim llawer o gwbl, felly roedd o'n ffordd o ffeindio rhywbeth bach arall i allu cael y triniaethau y mae pobl eu hangen allan i'r wlad yna."
Faint o sôn am Ebola oedd 'na bryd hynny?
"Roedd o o gwmpas, doedd o ddim yn agos i ni ond roedden ni'n gwybod bod o yn y wlad, a'i fod o yn Guinea a Sierra Leone.
"Ond i dd'eud y gwir, oedden ni'n gweithio mor galed yn y gwaith, doedden ni ddim yn meddwl llawer amdano.
"Doedd ganddo ni ddim deunyddiau i ymladd yn ei erbyn, felly roedden ni jyst yn cario 'mlaen efo'n gwaith ni."
Roeddet ti wedi gobeithio mynd yn ôl i'r wlad, ond roedd y sefyllfa wedi gwaethygu?
"Oedd. Tua wythnos ar ôl i mi ddod 'nôl, ges i glywed bod yr Ebola wedi lledaenu, a'i fod o yn yr ardal lle o'n i'n gweithio, a'r peth nesa o'dd chwe nyrs yn yr ysbyty lle o'n i'n byw wedi ei heintio.
"Naethon nhw farw, wedyn fe wnaeth yr ysbyty gau, a ches i ddim cyfle i fynd yn ôl.
"Mae'r rhan fwyaf o ysbytai yn Liberia erbyn hyn wedi cau, felly does gan y bobl yna unman i fynd os ydyn nhw'n sâl.
"Felly mae 'na filoedd yn marw o Ebola, ond mae 'na filoedd mwy yn marw oherwydd does ganddyn nhw unman i fynd pan maen nhw'n sâl."
Ers i ti dod yn ôl, sut wyt ti'n teimlo o weld yr argyfwng yn Liberia?
"Yn ofnadwy i dd'eud y gwir. Mae pobl dwi'n nabod yn dal i drio gweithio, mae'r ysbyty lle ro'n i'n gweithio newydd ail-agor ddydd Mercher diwetha', achos maen nhw isio trio rhoi bach o driniaeth i'r bobl.
"Ond wrth gwrs maen nhw ofn, mae Ebola o gwmpas, a phobl maen nhw'n eu 'nabod yn ei ddal o.
"Mae ganddyn nhw ychydig o ddeunyddiau sydd eu hangen i amddiffyn rhag Ebola ar hyn o bryd, ond wrth gwrs mae'r wlad yn dlawd ofnadwy ac mae'n anodd cael y pethau 'ma allan i bawb sy' eu hangen nhw.
"Dydy o ddim yn sefyllfa dda ar hyn o bryd."
Oeddet ti dy hun yn poeni dy fod wedi dy heintio?
"Oeddwn. O'n i'n gwybod mod i heb weld neb efo Ebola, ond eto, ges i annwyd a'r ffliw, ac wrth gwrs rydych chi'n dechrau bod 'chydig yn paranoid.
"O'n i'n lwcus mod i wedi gadael pan wnes i; wnaeth yr Ebola ddechrau jyst ar ôl i mi adael."
Mae awdurdodau Liberia wedi dweud bod y feirws yn fygythiad i fodolaeth y wlad. Fedr hi ddim mynd dim gwaeth na hynny?
"Na, mae'n ofnadwy, ac mae'n gwaethygu. Dwi'n gwybod o siarad efo ffrindiau yna.
"Mae'n wlad dlawd ac mae hi 'di bod yn anodd trio ffeindio ateb i'r feirws 'ma, a newydd ddod allan o ryfel hir iawn a thrio adeiladu'r wlad, a rŵan mae Ebola yn troi popeth yn ôl i le oedden nhw 10 mlynedd yn ôl.
"Maen nhw angen llwyth o help... Gobeithio bydd y wlad yma ac eraill yn ffeindio ffordd i'w helpu nhw."