Ad-drefnu cabinet: Cyn-weinidog cymunedau 'wedi synnu'
- Cyhoeddwyd

Mae un o'r gweinidogion adawodd gabinet llywodraeth Cymru yn rhan o ad-drefnu gan Carwyn Jones dd, yn dweud ei fod "wedi synnu" pan gollodd ei swydd.
Lesley Griffiths sydd wedi cymryd lle Jeff Cuthbert fel Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi.
Yn siarad ar Radio Wales, fe ddywedodd AC Caerffili ei fod wedi dweud wrth Carwyn Jones ei bod hi'n debygol na fyddai'n sefyll eto yn yr etholiad nesaf.
Meddai: "Roedd clirio'r ddesg yn hawdd, ond roedd hi'n anodd iawn clirio'r meddwl."
Daeth yr ad-drefnu annisgwyl â Leighton Andrews yn ôl i'r cabinet, 15 mis wedi iddo ymddiswyddo fel Gweinidog Addysg.
Fe fydd yn ymgymryd â rôl newydd - y Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus - gyda chyfrifoldeb dros gyflwyno argymhellion Williams.
Yn ôl Mr Cuthbert, roedd o "wedi synnu rhyw fymryn ddoe, ond gyda'r pethe' 'ma - 'dy chi ddim yn cael llawer o rybudd".
"Do'n i ddim yn gwybod beth yn union oedd am gael ei ddweud, ond o'n i gwybod fod Carwyn yn meddwl am y tîm oedd e eisiau i fynd at yr etholiad nesa' a heibio hynny.
"Ro'n i eisoes wedi dweud wrtho fe - a dim ond fe - fy mod i'n bwriadu, neu'n debygol iawn o gamu i'r neilltu gan y bydda'i bron yn 68 pan ddaw'r etholiad nesa' a do'n i ddim yn siwr oeddwn i am ymrwymo nes o'n i bron yn 73.
"Felly doedd e ddim yn gymaint o sioc â hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2014