Penfro: Canlyniadau pleidleisiau diffyg hyder
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi penderfynu sefydlu pwyllgor i ymchwilio i ymddygiad y prif weithredwr, Bryn Parry Jones.
Daeth y penderfyniad yn sgil pleidlais o ddiffyg hyder mewn cyfarfod brys fore Gwener yn dilyn anghydfod dros daliadau ychwanegol i'w gyflog.
Fe bleidleisiodd 46 o gynghorwyr yn erbyn Mr Parry Jones, gyda thri yn ei gefnogi, a thri yn atal eu pleidlais.
Penderfynodd y cynghorwyr hefyd y bydd pwyllgor yn cael ei sefydlu i ymchwilio i ymddygiad y prif weithredwr.
Mae'n debyg bydd y Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn cwrdd yr wythnos nesa'.
Fe fydd gan y pwyllgor yr hawl i wahardd y prif weithredwr, petaen nhw'n credu fod yna resymau digonol.
Fe fydd gan y cadeirydd y gallu ar ben ei hun i wahardd y prif weithredwr mewn achos o "argyfwng".
Dyw'r sir heb gyhoeddi enw cadeirydd y pwyllgor eto.
Roedd arweinydd y cyngor, Jamie Adams, hefyd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ddydd Gwener , ond fe oroesodd.
Fe gefnogodd 29 o gynghorwyr Mr Adams, wrth i 20 bleidleisio yn ei erbyn ac fe benderfynodd un cynghorydd atal ei bleidlais.
Roedd wedi cael ei feirniadu am gefnogi Mr Parry Jones, yn y ffrae am daliadau ychwanegol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd ganddynt unrhyw sylw i wneud am y sefyllfa yn Sir Benfro.
Seibiant
Daeth y datblygiad diweddara' wrth i Mr Parry Jones ddychwelyd i'w waith yr wythnos hon, wedi cyfnod o seibiant o'r swydd.
Roedd wedi bod ar gyfnod o seibiant tra bod yr heddlu yn ymchwilio i daliadau gafodd eu rhoi iddo.
Ym mis Ionawr penderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru bod taliadau pensiwn gafodd eu talu yn uniongyrchol i gyflog Mr Parry Jones ac un swyddog arall, sydd heb ei enwi, yn anghyfreithlon.
Roedd y ddau wedi derbyn taliadau pensiwn yn uniongyrchol er mwyn osgoi trethi.
Fe wnaeth y Swyddfa Archwilio ddod i'r un casgliad am daliadau pensiwn i brif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James.
Arweiniodd y penderfyniad at ymchwiliad gan Heddlu Sir Gaerloyw.
Bu Mr Parry Jones yn absennol o'i waith ar gyflog llawn ers ganol mis Awst. Mae Mr Adams wedi bod yn gefnogol i Mr Parry Jones drwy gydol y ffrae am bensiynau.
Yn ddiweddar fe wnaeth rhai aelodau staff y cyngor gerdded o'u gwaith mewn protest yn erbyn Mr Parry Jones, ac mae yna alw wedi bod ar y prif weithredwr i ymddiswyddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2014
- Cyhoeddwyd15 Awst 2014
- Cyhoeddwyd8 Awst 2014
- Cyhoeddwyd7 Awst 2014
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd6 Mai 2014
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd27 Medi 2013