Cronfa galedi'n parhau am flwyddyn arall
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â pharhau gyda chynlluniau i dorri cyllid i gronfa galedi ar gyfer myfyrwyr eleni, ond bydd y toriadau'n mynd yn eu blaen flwyddyn nesaf.
Dywedodd gweinidogion y byddai prifysgolion yn colli'r £2 miliwn y flwyddyn y maen nhw'n derbyn i gynnal Cronfa Arian wrth Gefn hydref nesaf, yn hytrach na'r hydref yma.
Yn ôl y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, fe ddylai prifysgolion ddefnyddio eu hincwm "sylweddol" i sefydlu eu cronfeydd caledi eu hunain.
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi croesawu'r oedi cyn torri'r gronfa.
'Cynorthwyo gyda'r baich'
Dywedodd Mr Lewis bod gweinidogion wedi "gwrando ar fudd-ddeiliaid" gan benderfynu "adfer y gronfa am y flwyddyn yma yn unig".
"Rydw i'n meddwl ei bod hi'n addas mai o'r flwyddyn academaidd 2015-2016 ymlaen y dylai prifysgolion sefydlu eu cronfeydd caledi eu hunain, a byddwn ni'n trafod opsiynau gyda myfyrwyr a sefydliadau."
Roedd Mr Lewis yn dadlau bod cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru "yn parhau i fod y pecyn mwyaf hael sy'n cael ei gynnig gan unrhyw un o lywodraethau'r DU" ond mynnodd ei bod hi'n amser "i sefydliadau unigol gynorthwyo gyda rhywfaint o'r baich."
Bydd yr oedi yn rhoi mwy o amser i brifysgolion sefydlu eu cynlluniau caledi eu hunain.
'Angen ariannol dybryd'
Dywedodd Llywydd NUS Cymru, Beth Button bod gweinidogion "wedi ymateb i gryfder teimladau ymysg myfyrwyr" ar y mater hwn.
"Mae'r gronfa caledi wedi bod yn gefnogaeth gwbl hanfodol ar gyfer myfyrwyr, ac roedd y penderfyniad i gael gwared arno ychydig wythnosau'n unig cyn ddechrau'r tymor newydd yn bygwth gadael nifer mewn angen ariannol dybryd.
"Mae hi'n destun clod i'r gweinidogion eu bod wedi gweithredu'n gyflym i gywiro eu penderfyniad wedi iddyn nhw sylweddoli ei fod yn anghywir, gan roi arian yn ôl mewn i bocedi myfyrwyr sydd ei angen ar gyfer parhau gyda'u cyrsiau."
Ar gyfartaledd mae myfyrwyr sy'n gwneud cais llwyddiannus am gymorth yn derbyn £400.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2014