Dau wedi marw mewn damwain yn Llansawel

  • Cyhoeddwyd
Y ddamwain
Disgrifiad o’r llun,
Fe darodd y car wal ar Hen Ffordd, Llansawel

Mae dau o bobl wedi marw yn dilyn damwain ffordd a ddigwyddodd yn Llansawel.

Fe wnaeth Ford Focus du adael y ffordd ar yr A48 am tua 04:00 fore dydd Sadwrn a tharo yn erbyn wal. Digwyddodd hyn ar Hen Ffordd, ger y bwyty McDonald's.

Bu farw dau o ddynion oedd yn y cerbyd ar y pryd, yn ôl yr heddlu.

Mae Heddlu'r De wedi dweud eu bod nhw wedi cyfeirio eu hunain at Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu oherwydd eu bod wedi derbyn adroddiad bod y cerbyd yn ymddwyn yn amheus yn ardal Rhydaman cyn y gwrthdrawiad.

Maen nhw'n dweud bod hyn yn unol â pholisi'r llu a'r canllawiau perthnasol.

Hoffai swyddogion siarad â gyrrwr cerbyd du, a allai fod yn dacsi, oedd wedi cael ei weld yn defnyddio cylchfan Llansawel tua adeg y ddamwain.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu yn ddienw drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.