Leinster 42 - 12 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Scarlets

Cafodd y Scarlets wers mewn rygbi gan Leinster yn eu hail gêm o'r tymor yn y Pro12.

Roedd Kearney wedi dychwelyd i linell ôl y tim cartref ac ef oedd yr ysbrydoliaeth iddyn nhw yn yr hanner cyntaf.

Fe sgoriodd ddau o geisio bob yn ochr i un Scott Williams, ac fe wnaeth trosiadau Ian Madigan - ac ymgais ofnadwy Priestland i drosi - y sgôr yn 14-5.

Wedi hyn fe gafodd Madigan ddau gais iddo'i hun i sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref. Ond doedd hi ddim drosodd eto.

Cafodd Phil John gerdyn melyn a tra'r oedd oddi ar y cae fe sgoriodd Dominic Ryan a Tadhg Furlong bwyntiau cyn i Snyman gael un yn ôl i'r Scarlets yn hwyr yn y dydd.

Diwrnod i anghofio i'r cochion.