Wrecsam 2 - 1 Welling
- Cyhoeddwyd

Joe Clarke gafodd y gôl wnaeth sicrhau y pwyntiau i Wrecsam
Fe wnaeth dwy gôl hwyr sicrhau'r triphwynt i Wrecsam wrth iddyn nhw drechu Welling ar y Cae Ras.
Harry Beautyman sgoriodd gôl gyntaf y gêm i'r ymwelwyr wedi i Neil Ashton wneud y gorau o gamgymeriad Tobi Sho-Silva.
Fe ddaeth trobwynt y gêm pan gafodd John Nouble ei yrru oddi ar y cae wedi iddo gael ail gerdyn melyn am drosed ar Nouble.
Louis Moult wnaeth unioni'r sgôr cyn i Clarke rwydo i sicrhau buddugoliaeth arall i Wrecsam, sydd bellach yn seithfed yn y tabl gyda 16 pwynt allan o 9 o gemau.
Yn siarad gyda'r BBC ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin bod y prynhawn wedi bod yn un rhwystredig.
"Er fy mod i wrth fy modd efo'r triphwynt, yn amlwg dydw i ddim yn hapus efo perfformiad fel 'na," meddai.