Ffyrdd ar gau oherwydd ras feicio
- Cyhoeddwyd

Mae rhyw 2,000 o feicwyr yn cymryd rhan yn ras Wiggle Etape Cymru yn y gogledd ddwyrain.
Gan fod y ras yn un "lon gaeedig" mae'r llwybr rasio wedi cael ei gau, ond mae'r cyngor yn dweud y bydd y prif lonydd yn cael eu cadw'n glir.
Dywedodd Huw Jones, sy'n gyfrifol am reoli hamdden ar gabinet Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r digwyddiad yma'n gyflym ennill enw da fel digwyddiad pwysig ar y calendr beicio, gyda mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan wrth iddynt wneud eu ffordd i ogledd ddwyrain Cymru i gystadlu.
"Mae gennym olygfeydd anhygoel fel cefndir ac ambell i allt wych er mwyn cynnig her i'r beicwyr."
Y flwyddyn ddiwethaf fe gafodd lawer o'r cystadleuwyr dyllau yn eu teiars wedi i rywrai daflu pinnau ar y lôn.
Llwybr y ras
Mae'r ras 85 milltir yn dechrau ym Mangor-is-y-Coed ac yn mynd i'r gorllewin trwy Eutun, Rhiwabon, Dinbren a Phentredŵr.
Yna byddan nhw'n wynebu her anoddaf y ras, sef allt Bwlch yr Oernant sydd dros 6 cilomedr o hyd ac yn codi 317 o fetrau mewn uchder gan gyrraedd graddiant o 20% mewn mannau.
Mi fydd y reidiwr cyflymaf yn y cymal hwn yn derbyn gwobr arbennig o'r enw Brenin y Mynydd.
Bydd y ras wedyn yn cario mlaen drwy Bentrebwlch, Tŷ Mawr, Bryneglwys a Charrog lle byddant yn troi i gyfeiriad y gogledd ddwyrain.
Wedyn fe ant heibio Goleg Cambria, drwy Goed Henblasbach, wedyn Pentrecoch, Llanarmon-yn-Iâl, Rhydtalog, Gwynfryn, y Mwynglawdd, New Brighton ac Eglwyseg.
Erbyn hynny mi fyddan nhw'n ôl ar ran o'r trac fyddan nhw eisoes wedi ei reidio, ond yn lle mynd yn ôl drwy Riwabon fe wnawn nhw droi i'r chwith a mynd drwy Rhosllanerchrugog, Pentrebychan, Cross Lanes cyn gwibio at y llinell orffen ym Mangor-is-y-Coed.