Gleision 12-33 Glasgow
- Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes y Gleision yn erbyn Glasgow gyda Nikola Matawalu yn cipio dau gais ar Barc yr Arfau.
Doedd dim gymaint â hynny'n gwahanu'r ddau dîm ar yr hanner amser gyda'r sgôr yn 13-6 gyda Sean Lamont yn cael y cais i'r ymwelwyr.
Ar ddechrau'r ail hanner ddaeth dwy gic gosb o droed Rhys Patchell â'r gêm o fewn cyffwrdd i'r Gleision.
Ond fe newidiodd y gêm wedi i Matawalu ddod ymlaen fel eilydd ac roedd wedi hawlio dau gais yn ddigon buan, gyda Duncan Weir yn trosi'r ddau.
Fe wnaeth y gŵr o Seland Newydd Jarrad Hoeata wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r Gleision a daeth Scott Andrews oddi ar y faint i sicrhau ei 100fed ymddangosiad iddynt.
Mae'r Gleision yn wythfed yn nhabl y Pro 12 gyda'r Scarlets y tu ôl iddyn nhw a'r Dreigiau yn 10fed.
Y Gweilch yw'r unig ranbarth Cymreig i gael dechrau da a nhw sydd ar frig y gynghrair ar ôl y ddwy gêm gyntaf.
Straeon perthnasol
- 13 Medi 2014
- 12 Medi 2014