Oedi oherwydd gwaith ar yr A55/A483

  • Cyhoeddwyd
A483 approaching A55 junctionFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Yr A483 yw un o'r ffyrdd prysuraf rhwng gogledd Cymru a gogledd Orllewin Lloegr.

Fe allai gwaith i wella cyflwr ffyrdd dros ffin yn ardal Caer - gwaith a allai bara chwe mis - olygu oedi i bobl ardal Wrecsam.

Mae Asiantaeth y Priffyrdd (Lloegr) yn gwario £5.3 m ar ailwampio cylchdro'r A55/A483 ar gyrion Caer, ffordd brysur sy'n cysylltu gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.

Dywedodd Ian Lucas AS Wrecsam y byddai'r gwaith yn cael effaith "amlwg" ar bobl sy'n byw neu'n gweithio yn Wrecsam.

Fe fydd cymal cyntaf y gwaith yn golygu cau'r A483 dros nos i'r ddau gyfeiriad.

Mae'r gwaith yn dechrau ddydd Llun ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn Mawrth 2015.

Dywedodd llefarydd ar ar yr Asiantaeth Priffyrdd: "Mae hwn yn brosiect pwysig a bydd o'n gwneud y gyffordd bresennol yn le mwy diogel i yrwyr a cherddwyr. "

Ychwanegodd y bydd o fudd i drigolion y naill ochr i'r ffin.

Dywedodd Mr Lucas: "Bydd unrhyw un synhwyrol yn derbyn y bydd yna ychydig o oedi wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ond yr hun sy'n hanfodol yw sicrhau fod gyrwyr yn gwybod beth i'w ddisgwyl, a bod yna ddigon o wybodaeth er mwyn i bobl gynllunio eu siwrne."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol