Pickering yn cael ei 'gosbi'

  • Cyhoeddwyd
Roger Lewis and David PickeringFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roger Lewis a David Pickering

Yn ôl cyn gapten tîm rygbi Cymru Gwyn Jones fe wnaeth David Pickering golli ei swydd fel cadeirydd Undeb Rygbi Cymru oherwydd bod y clybiau yn anfodlon gyda'r prif weithredwr Roger Lewis.

Ddydd Gwener methu fu ymgais David Pickering i gael ei ailethol i Fwrdd yr Undeb.

Gareth Davies, prif weithredwr y Dreigiau, ac Anthony Buchanan, cyn prop Cymru, oedd yn fuddugol yn y bleidlais.

Dywedodd Jones fod y neges yn un clir.

"Doedd ganddynt ddim modd o ddiswyddo Roger Lewis, " meddai.

"Roedd ganddynt y gallu i roi'r sac i'r ail ddyn, ac mae David Pickering wedi gorfod mynd."

Bydd Pickering, sydd wedi bod yn Gadeirydd ers 2003, yn rhoi'r gorau i'w swydd ar Hydref 19, wrth i'r bwrdd newydd ymgynnull.

Ym mis Awst fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru a'r pedwar rhanbarth arwyddo cytundeb chwe blynedd, ar ôl i bron i ddwy flynedd o ffraeo am ariannu.

Cred Jones fod y ffrae yn ffactor wrth i Pickering fethu yn ei ymdrech ei gael ei ailethol.

"Y cwestiwn nesa yw pwy fydd y cadeirydd?"

"Sut fydd Roger Lewis, sydd wedi bod a gymaint o rym yng Nghymru wrth weithio law yn llaw gyda David Pickering, sut bydd o'n ymdopi o hyn ymlaen."

Gwnaed cais i Undeb Rygbi Cymru am sylw.