Refferendwm: Tri diwrnod o ymgyrchu ar ôl
- Cyhoeddwyd

Fore Gwener, mae'n bosib y bydd David Cameron yn ystyried ei le yn y llyfrau hanes fel y prif weinidog wnaeth golli'r Deyrnas Unedig, nid i elyn o wlad estron, ond i benderfyniad gan bobl yr Alban i bleidleisio dros annibyniaeth.
Felly heddiw, gyda thri diwrnod tan y refferendwm, mae Mr Cameron ar ei ffordd yn ôl i'r Alban i ymgyrchu am bleidlais 'Na'.
Mae rhai aelodau o'r ymgyrch Ie yn honni fod nhw'n ymfalchïo pob tro mae Mr Cameron yn croesi'r ffin.
Yn eu tyb nhw, mae presenoldeb prif weinidog Ceidwadol yn yr Alban - arweinydd o blaid na bleidleisiodd y rhan fwyaf o Albanwyr iddi - yn atgoffa pobl yr Alban am fanteision annibyniaeth.
Heb os, mae amhoblogrwydd y blaid Geidwadol yn yr Alban yn rhan holl bwysig o'r ymgyrch dros annibyniaeth.
Trawiadol
Dyma gyfle, meddai cenedlaetholwyr, i wrthod y Ceidwadwyr unwaith ac am byth trwy dorri pob cysylltiad â San Steffan.
Mae Mr Cameron ei hun wedi cydnabod hyn. Roedd ei rybudd taw nid cyfle i roi cic i'r Toriad yw'r bleidlais hon yn foment trawiadol.
Mewn gwirionedd, derbyn y realiti gwleidyddol oedd Mr Cameron.
Dim ond un sedd allan o 59 yn yr Alban enillodd ei blaid yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Mae'r hanesydd Tom Devine wedi tanlinellu'r cwymp sylweddol mewn cefnogaeth y blaid: yn yr 1920au a 1930au, y Toriaid oedd prif blaid yr Alban.
Dim ond yn yr 1960au wnaeth y blaid newid ei enw o'r "Scottish Unionist Party" a mabwysiadu enw Ceidwadwyr Lloegr a Chymru. Mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth ers hynny.
Ond oes dewis gan Mr Cameron? Gall e ddim gadael diogelwch yr Undeb i Susan Boyle a David Beckham - dau sydd wedi galw am bleidlais Na.
Penderfyniad terfynol
Dychmygwch beth fyddai'n digwydd petai Mr Cameron, Nick Clegg ac Ed Miliband - Tîm San Steffan, chwedl yr SNP - yn cadw draw. Byddent yn cael eu cyhuddo o ildio brwydr holl bwysig.
Ond pan fod baner yr Alban yn chwifio uwchben rhif 10 Downing Street - fel mae e nawr, ac mi fydd e'n aros am weddill yr ymgyrch - mae'r SNP yn dweud fod Mr Cameron yn dioddef o banig.
Felly yn ôl i'r Alban amdani. Mae disgwyl i Mr Cameron dweud fod hwn yn benderfyniad terfynol. Os daw'r Undeb i ben, yna fydd ddim modd ail ymuno.
Diolch byth, meddai Alex Salmond. Mi oedd prif weinidog yr Alban yn cyfarfod ag arweinwyr busnes ddydd Llun.
Ei fwriad yw esbonio'r cyfleoedd i fusnesau fydd yn deillio o annibyniaeth. Mae'n dilyn rhybuddion gan nifer o enwau mawr byd busnes yn erbyn annibyniaeth.
Rydym wedi clywed am fanciau, megis RBS, sydd yn paratoi ail-gofrestru yn Llundain os ydy'r Alban yn gadael y Deyrnas Unedig. Mae John Lewis ac Asda wedi dweud y gall prisiau nwyddau godi.
Felly sdim rhyfedd fod Mr Salmond yn awyddus i ddangos fod 'na bobl busnes uchel eu parch sy'n cytuno ag ef.
Economi
Mae'n "wirion", meddai Mr Salmond, honni 'na fyddai mamwlad yr economegydd Adam Smith yn gallu rhedeg economi llewyrchus.
Ac mae hynny'n mynd i galon y ddadl.
Nid dadl dros allu'r Alban i fod yn wlad annibynnol yw hon, ond dadl dros ba mor llwyddiannus fyddai'r wlad honno.
Dydi'r ymgyrchwyr dros bleidlais Na ddim yn gwadu y gallai'r Alban sefyll ar ei thraed ei hunain.
Maen nhw'n dweud y gall y wlad honno gynnig ffordd o fyw gwell pe bai'r Alban yn rhan o'r Undeb.
Mae ganddyn nhw dri diwrnod i ennill y ddadl honno.