Cryfder Cymeriad! Lluniau Ironman Cymru 2014

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunDewr 'ta gwallgo'? 2,100 o athletwyr yn barod ar doriad gwawr ar gyfer her Ironman Cymru
disgrifiad o’r llunMae'r môr 'na'n edrych yn oer!
disgrifiad o’r llunMôr o gapiau gwyrdd ar draeth y gogledd, Dinbych-y-Pysgod
disgrifiad o’r llunTechnoleg yn galluogi cefnogwyr i ddilyn pob cam ar-lein
disgrifiad o’r llunI mewn â ni!
disgrifiad o’r llunYr haul yn codi wrth i'r nofwyr ddiflannu ar y gorwel
disgrifiad o’r llunPob lwc i bawb!
disgrifiad o’r llunAr ôl nofio, y beiciau sy'n disgwyl y cystadleuwyr - dros gan milltir o seiclo o'u blaenau!
disgrifiad o’r llunCusan i'r cefnogwyr gan Carl Paddon o Portsmouth
disgrifiad o’r llunRoedd Tom Ward yn bumed yn ei ddosbarth ar ôl y nofio
disgrifiad o’r llunMae'r cystadleuwyr yn siŵr o fod yn sychedig!
disgrifiad o’r llunMae yna gefnogwyr amrywiol iawn i'w gweld ar strydoedd Dinbych-y-Pysgod
disgrifiad o’r llunMae digon o gefnogaeth i'r Cymry hefyd!
disgrifiad o’r llunRydan ni'n medru gweld y cwbl o fan hyn!
disgrifiad o’r llunMae'r cefnogwr ifanc yma yn taro deuddeg i Michael Butterfield
disgrifiad o’r llunMae drymiau Samba Doc yn atseinio trwy strydoedd Dinbych-y-Pysgod
disgrifiad o’r llunMae'r linell derfyn yn agosáu!
disgrifiad o’r llunY dorf yn croesawu athletwr arall dros y llinell derfyn