Cofeb babanod Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Bydd cofeb yn cael ei ddadorchuddio mewn mynwent yn Hwlffordd er mwyn cofio tua 400 o fabanod marw-anedig gafodd eu geni rhwng 1928 a 1975.
Mae nifer fawr o'r babanod wedi eu claddu mewn beddi heb gofeb ym mynwent City Road, Hwlffordd, wrth ymyl yr hen ysbyty yno.
Mae'r penderfyniad i sicrhau cofeb addas i'r babanod yn dilyn ymgyrch gan Pat James, un o swyddogion yr amlosgfa yn Arberth. Dywedodd Ms James iddi sylwi bod nifer fawr o fabanod marw-anedig wedi eu claddu wrth iddi drosglwyddo cofnodion y fynwent i gyfrifiadur.
Dywedodd Pat James "Wrth i mi edrych ar y wybodaeth fe sylweddoles i fod lot ofnadwy o fabanod marw-anedig. Roedd llawer ohonyn nhw wedi eu claddu ym mynwent City Road, lle'r oedd yr ysbyty arfer bod. Fe ges i lawer o alwadau ffôn hefyd gan famau - rhai ohonynt yn eitha' hen nawr - oedd eisiau gwybod lle'r oedd eu plant wedi eu claddu."
Fe ysgogodd hyn Ms James i godi arian er mwyn comisiynu cofeb addas, ac fe blannwyd coed ar y safle gan ymgymerwyr lleol. Dywedodd "gobeithio y gwneith hyn roi peth cysur i'r mamau a'r tadau, ac yn rhoi rhywle iddynt fynd i feddwl am eu colled."
Bwriedir dadorchuddio'r gofeb mewn gwasanaeth ar 29 Medi.