Cip ar yr ymgyrch Ie yn yr Alban
- Cyhoeddwyd

Nos Lun, 25 Awst Dyma'r noson pan newidiodd pethau yn ymgyrch refferendwm yr Alban.
Y consensws oedd mai Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond enillodd yr ail ddadl deledu yn erbyn Alistiar Darling ond, yn fwy na hynny, roedd 'na deimlad fod pobl yr Alban wedi cael digon o rai o ddadleuon yr ymgyrch Na.
Gellir clywed ochenaid amlwg o'r gynulleidfa yng nghanol dadl y BBC pan aeth y cyn Ganghellor ati i ddadlau unwaith eto am yr arian fyddai Alban annibynnol yn ei ddefnyddio.
Mae'n ddadl bwysig, meddai Better Together, ond yn enghraifft o'r feirniadaeth fod ei hymgyrch wedi bod yn rhy dechnegol ac wedi canolbwyntio ar ddadleuon y pen yn hytrach na'r galon.
Arolygon barn
Ychydig dros wythnos yn ôl, roedd arolwg barn YouGov ar ran papur newydd The Sunday Times wedi awgrymu am y tro cyntaf fod mwyafrif o blaid annibyniaeth.
Ffolineb fyddai canolbwyntio ar un arolwg barn yn unig, ond mae'r patrwm o gefnogaeth yn symud tuag at annibyniaeth yn un amlwg.
Mae 97% o bobl sy'n gymwys i bleidleisio yn yr Alban wedi cofrestru ar gyfer y refferendwm - rhyw 50% wnaeth bleidleisio yn etholiad Senedd yr Alban yn 2011.
Bydd sawl un heb bleidleisio am flynyddoedd os erioed; cefnogaeth y bobl yma - y "missing million" - fydd yn dyngedfennol ddydd Iau yn ôl y rheiny sydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth.
Pobl sydd ar gyrion gymdeithas yw'r rhain yn bennaf. Pobl sydd yn hen arfer anwybyddu gwleidyddiaeth a gwleidyddion achos eu bod nhw heb weld unrhyw newid yn eu hamgylchiadau.
Dadl yr ymgyrch Ie yw y byddai annibyniaeth yn cynnig y newid yna.
Drwgdeimlad
Ni fyddai'r Alban yn cael ei rhedeg gan lywodraeth nad yw pobl y wlad wedi ei hethol. Yn y bôn, y neges yw: fydd na ddim llywodraethau Ceidwadol yn yr Alban fyth mwy.
Mae'n ddadl ddeniadol mewn gwlad lle mae yna dipyn o ddrwgdeimlad tuag at Dorïaid sydd heb ennill mwyafrif yna ers 1955 - un sedd Albanaidd sydd gan y blaid yn San Steffan allan o 59.
Mae'r ddadl hefyd yn rhan o naratif yr SNP yn ystod yr ymgyrch - y bobl yn erbyn y sefydliad Prydeinig; gobaith yn erbyn ofn; positifrwydd yn erbyn negyddoldeb.
Ar ôl bron i ddwy flynedd o ymgyrchu, mae'r dadleuon oll wedi eu clywed, a dyfodol yr Alban a'r Deyrnas Unedig yn nwylo'r mwy na phedair miliwn fydd yn pleidleisio ddydd Iau.
Yng Nghaeredin nos Sul, roedd cyngerdd i gefnogi annibyniaeth yn cynnwys perfformiad gan y band Albanaidd Franz Ferdinand.
Gyda'r bleidlais yn agosáu, mae neges yr ymgyrch Ie yn atseinio yn un o'u caneuon mwyaf poblogaidd: 'Take Me Out'.