Cip ar yr ymgyrch Na yn yr Alban
- Cyhoeddwyd

Fe ddechreuon nhw ymhell ar y blaen ond, dros yr wythnosau diwethaf, mae'r arolygon barn wedi closio'n ddramatig a chwestiynau wedi codi am yr ymgyrch Na.
Roedd hi'n ymddangos bod gan Better Together fanteision amlwg - cefnogaeth y prif bleidiau Prydeinig, a'r dasg o amddiffyn y statws quo, yn hytrach na gorfod dwyn perswâd ar bobl i gamu i sefyllfa anghyfarwydd ac ansicr.
Ond wythnos a hanner yn ôl fe wnaeth un arolwg barn awgrymu bod Ie ar y blaen a hynny'n siglo'r sefydliad gwleidyddol i'w seiliau.
Daeth arweinwyr y pleidiau yn San Steffan i'r Alban i geisio achub yr Undeb ac roedd 'na apêl emosiynol gan y Prif Weinidog David Cameron.
O'r galon, ond yn rhy hwyr o bosib i ateb y feirniadaeth bod yr ymgyrch Na wedi methu cipio'r dychymyg.
Rhy negyddol?
Daeth cyhuddiadau cyson bod Better Together yn rhy negyddol. Ond i raddau mae hynny'n sgil effaith anochel o geisio annog pobl i ddweud 'Na'.
A gyda sawl plaid yn cyfrannu, mae hi weithiau wedi bod yn anodd cyfleu undod pwrpas.
A beth am arweinwyr yr ymgyrch? Yn Alex Salmond mae gan yr ymgyrch Ie arweinydd sy'n wleidydd craff, adnabyddus ac, yn ôl rhai, carismatig.
Fe amlygodd y dadleuon teledu rhwng y ddau nad oedd gan Alistair Darling, y cyn Ganghellor Llafur ac arweinydd ymgyrch Better Together, yr un sgiliau cyfathrebu.
Amlygu gwendidau?
Ond eu gobaith yw ei fod wedi llwyddo i amlygu gwendidau'r ymgyrch Ie ar yr economi ac yn apelio at y rheiny sydd ddim mor hoff o steil gwleidyddol Alex Salmond.
Fel peiriant ymgyrchu modern, y farn ymhlith y sylwebyddion yw bod yr ymgyrch Ie wedi bod yn dipyn mwy effeithiol, yn enwedig ar wefannau cymdeithasol ac wrth dargedu cefnogwyr posib.
Ond, yn y pendraw, mae'n anodd mesur dylanwad y dulliau ymgyrchu.
Ydy'r ymgyrch Na wedi gwneud digon i gynnig gweledigaeth bositif o'r Alban fel rhan o'r Undeb, yn ogystal â rhybuddio am effeithiau andwyol annibyniaeth?
Fydd hynny ddim yn glir nes bore Gwener.