Galw am swyddi pasport i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad gan bwyllgor seneddol ar y gwasanaeth pasport yn cynnig gobaith am fwy o swyddi i Gasnewydd, yn ôl un Aelod Seneddol lleol.
Mae Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cartref sy'n gyfrifol am yr adroddiad.
Dros y flwyddyn aeth heibio mae Swyddfa Basport Ei Mawrhydi (HMPO) wedi gweld cyfnodau o brysurdeb aruthrol, gyda rhestrau aros hir am basport.
Yn sgil yr adroddiad mae Mr Flynn wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn galw ar y llywodraeth y ddod â swyddi yn ôl i Gasnewydd er mwyn osgoi argyfwng tebyg i'r haf diwethaf rhag digwydd eto.
Mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn feirniadol iawn o'r modd y deliwyd â hyn, ac yn dweud:
"Yn seiliedig ar ffigyrau eleni am daliadau goramser, mae'n glir bod y defnydd o oramser i ddelio gyda chyfnodau o alw mawr ar y gwasanaeth wedi bod yn anghynaladwy.
"Mae hyn yn codi'r cwestiwn 'A oes gan HMPO y nifer cywir o staff, a'r cymysgedd iawn i ddelio gyda chyfnodau prysur iawn?'
"Rydym yn argymell y dylai unrhyw swyddi ychwanegol yn y dyfodol gael eu lleoli, pan yn bosib, yn yr ardaloedd a ddioddefodd o ddiswyddiadau yn y Swyddfa Basport yn y gorffennol."
Anrhefn
Cafodd y swyddfa yng Nghasnewydd ei hisraddio yn 2011 gyda cholled o 150 o swyddi.
Ers hynny fe ddywed Paul Flynn bod tua 300 o swyddi wedi cael eu creu gan lywodraeth San Steffan yn y gwasanaeth, ond bod y swyddi yna wedi mynd i Lerpwl ac ardaloedd eraill.
Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw:
"Y llywodraeth wnaeth greu'r argyfwng drwy gwtogi ar swyddi - mae'r bai arnyn nhw ac mae fyny iddyn nhw i roi'r swyddi yn ôl.
"Rwy'n galw ar y llywodraeth i greu mwy o swyddi, ac fe ddylen nhw ddod i'r ardaloedd a gollodd swyddi yn 2011.
"Mae angen mwy o bobl yn gweithio yng Nghasnewydd i sicrhau nad oes argyfwng fel hyn eto."
Bydd cyfweliad gyda Paul Flynn ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Mawrth.
Taliadau ychwanegol
Oherwydd anhrefn mewn cyfnodau prysur eleni, mae HMPO wedi gweld taliadau ychwanegol aruthrol i dalu am oramser staff, ac iawndal i bobl oedd wedi gorfod canslo'u gwyliau.
Yr amcangyfrif yw bod y taliadau goramser yn unig yn £5 miliwn am y flwyddyn aeth heibio. Nid yw'r taliadau iawndal wedi eu mesur yn llawn eto, ond fe allai'r rheiny fod yn ddwbl hynny.
Roedd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Keith Vaz AS, yn feirniadol iawn, a dywedodd:
"Mae yma fethiant rheoli llwyr wedi bod ar y lefel uchaf yn y sefydliad yma.
"Dylai'r HMPO golli ei statws asiantaeth a dod yn ôl o dan reolaeth gweinidogion llywodraeth yn dilyn cyfres erchyll o fethiannau.
"Maen nhw wedi cynnig gwasanaeth cywilyddus o wael i oddeutu 5.6 miliwn o ddinasyddion Prydain sy'n byw dramor."