Damwain beic modur: Enwi gyrrwr

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw gyrrwr beic modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad â char ar yr A5104 ym Mryneglwys ger Corwen ddydd Mercher, 10 Medi.

Roedd Alan Batten yn hanu o Northwich yn Swydd Caer.

Bu ei feic mewn gwrthdrawiad a char Toyota Yaris yr wythnos diwethaf, a bu farw ar unwaith.

Cafodd gyrrwr y car ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam lle cafodd driniaeth i'w anafiadau.

Disgwylir i'r crwner gynnal cwest i'r farwolaeth ym mis Mawrth.