Aros mewn ambiwlans: marwolaeth claf

  • Cyhoeddwyd
glan clwyd
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd y Cwest fod sawl ambiwlans yn aros y tu allan i'r ysbyty.

Clywodd cwest i farwolaeth gwraig 94 oed y gallai oedi y tu allan i ysbyty fod wedi cyfrannau at achos ei marwolaeth.

Bu farw Lily Baxandall yn ysbyty Glan Clwyd ar 5 Medi. Roedd ganddi anaf i'w phen ar ôl iddi ddisgyn yn ei chartref yn Belgrano ger Abergele ar 1 Medi.

Clywodd y cwest yn Rhuthun fod sawl ambiwlans yn aros y tu allan i'r ysbyty y diwrnod hwnnw, a bu'n rhaid aros cyn i Mrs Baxandall gael mynediad i'r ysbyty.

Dywedodd y Crwner y byddai'n cynnal gwrandawiad llawn i'r achos, ac fe ohiriwyd y cwest tan Fis Chwefror.