Galw am newid deddf drysau tân
- Cyhoeddwyd

Mae tad i fenyw ifanc o Gymru, fu farw mewn tân yn Llundain yn 2012, wedi galw am newid y gyfraith yn ymwneud â drysau tân.
Fe ddaw galwad Julian Rosser, o Gaerdydd, wrth i ymchwil newydd ddangos nad yw 46% o'r rhai sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch tân yn gwybod yn iawn beth yw'r goblygiadau cyfreithiol.
Bu farw Sophie Rosser yn 23 oed mewn tân mewn bloc o fflatiau - Meridian Point yn Canary Wharf yn Llundain - yn 2012.
Roedd hi wedi ceisio achub ei chariad o'r tân
Dywedodd Mr Rosser: "Yn achos Sophie, cafodd ei marwolaeth ei achosi oherwydd bod y drws tân o gyntedd yr adeilad i'r fflat lle dechreuodd y tân wedi ei gadw ar agor gan ddarn o'r llawr pren.
"Ers iddi farw rwyf wedi bod yn ymgyrchu am adolygiad i'r ddeddf sy'n ymwneud ag adolygiadau cyson a chynnal a chadw drysau tân mewn adeiladau lle mae nifer o drigolion.
"Y broblem gyda'r gyfraith ar y funud yw nad yw'n gwneud un person yn gyfrifol am adolygiadau cyson a chynnal a chadw'r drysau tân mewn ardaloedd cymunedol o'r adeiladau - mae pawb, felly, yn medru taflu'r baich ar rywun arall fel digwyddodd yn achos Sophie."
Cyfrifoldeb cyfreithiol
Mae'r ymchwil newydd yn cyd-fynd ag Wythnos Diogelwch Drysau Tân, ac mae'n dangos bod bron hanner (46.5%) o'r bobl sydd â chyfrifoldeb ffurfiol am ddiogelwch tân mewn adeiladau yn ansicr, neu ddim yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â diogelwch tân.
Roedd canran debyg (45%) yn dweud na fydden nhw'n gwybod sut i adnabod drws tân diffygiol, sef un o'r mesurau diogelwch pwysicaf mewn adeiladau cymunedol bob dydd.
Mae'r wythnos yn rhan o ymgyrch 'Mae Tân yn Lladd' gan Lywodraeth San Steffan, ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân yn gyffredinol, a drysau tân yn benodol.
Mae ffigyrau'r ymgyrch yn dangos bod 350 o farwolaethau'n gysylltiedig â thanau wedi eu cofnodi yn y DU yn 2012/13, gyda gwerth biliynau o bunnau o ddifrod wedi'i achosi.