Beirniadu cadw fformiwla Barnett
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr y tair prif blaid yn San Steffan wedi arwyddo addewid i ddatganoli rhagor o bwerau i'r Alban, os fydd yr Albanwyr yn gwrthod annibyniaeth. Yn rhan o'r addewid mae'r prif weinidog wedi addo mwy o ddatganoli i Gymru.
Mae tair rhan i'r addewid, ac mae hefyd yn ymrwymo i gadw'r fformiwla gyllido Barnett sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Fformiwla Barnett yw'r dull a ddefnyddir i bennu dosbarthiad gwariant cyhoeddus o gwmpas y DU.
Ond mae'r addewid gan y tri arweinydd yn San Steffan i gadw'r system i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael ei feirniadu gan yr ASE Cymreig o Blaid Cymru, Jill Evans.
Dywedodd Ms Evans fod y fformiwla Barnett yn "annheg" ac fod "Cymru'n colli allan o £300 miliwn y flwyddyn."
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud bod angen i'r "cenedlaetholwyr" yng Nghymru roi'r gorau i gwyno am fformiwla Barnett, gan ddweud:
"Nid dyma'r ateb i bopeth. Mae pleidiau'r chwith i gyd yn dweud 'ry'n ni angen mwy o arian' o'r Trysorlys.
"Byddwn i wrth fy modd o weld mwy o arian yn dod i Gymru, ond mae angen ffurfio dadl dros hynny yng nghyd-destun y setliad a ddaw ar ôl refferendwm ddydd Iau.
"Ond fedrwch chi ddim ei ddefnyddio (fformiwla Barnett) fel yr unig ffordd o ateb y diffyg yn incwm Cymru neu fe fyddwch chi wastad yn rhan o'r diwylliant dibyniaeth yna."
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood hefyd wedi dweud bod y fformiwla yn annheg i Gymru, gan ddweud bod angen fformiwla newydd yn seiliedig ar anghenion poblogaeth Cymru a "allai ddatgloi £300 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i'n gwasanaethau cyhoeddus".
Yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn y senedd brynhawn Mawrth awgrymodd Leanne Wood bod addewid y llywodraeth yn golygu cadw fformiwla Barnett fel ag y mae ac y byddai Cymru felly ar ei cholled.
Ond gwadu hynny wnaeth Carwyn Jones gan ddweud y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn mynd i'r afael â thanariannu Llywodraeth Cymru os fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Dywedodd: "Mae Ed Miliband wedi dweud yn glir, ac rwy'n cytuno gydag ef, y bydd tanariannu Cymru cael ei ystyried o dan lywodraeth Lafur.
"Ni fydd yr hen Undeb yn gweithio o ddydd Gwener ymlaen."
Wrth ateb cwestiwn arall gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams, ychwanegodd Mr Jones ei fod yn cefnogi'r syniad o hunanreolaeth i Gymru a awgrymwyd gan Lloyd George ganrif yn ôl.
Dywedodd bod y Cynulliad yn "prysur ddatblygu i fod yn Senedd i Gymru".
Unig ffordd
Mae'r ymgyrch Ie wedi dadlau mai'r unig ffordd i'r Alban gael mwy o bwerau yw pleidleisio dros annibyniaeth.
Mae'r ysgrifennydd tramor cysgodol wedi gwadu fod yr addewid yma wedi dod yn rhy hwyr yn y ddadl refferendwm.
Wrth siarad ar BBC Breakfast, dywedodd Douglas Alexander: "Yma yn yr Alban, yr ydym wedi bod yn siarad am y pwerau hyn ers misoedd."
Fe ddiystyrodd Mr Alexander honiadau'r ymgyrch Ie mai annibyniaeth yw'r unig ffordd i lywodraeth yr Alban lwyr reoli'r wlad.
Wrth siarad ar raglen Newsnight y BBC, dywedodd y prif weinidog bod mwy o bwerau wastad wedi bod yn rhan o'i gynllun.
"Rwyf wedi dweud o gychwyn yr ymgyrch hon, os fydd yr Alban yn pleidleisio Na i wahanu, byddai gweddill y DU yn dweud Ie dros ddatganoli pellach," meddai Mr Cameron.
"... Hynny yw, os fydd yr Alban eisiau mwy o ddatganoli - ac rwy'n meddwl y dylai Cymru gael mwy o ddatganoli."
"Ac wrth gwrs nid dim ond fy marn i yw hyn, dyma hefyd oedd barn arweinwyr y pleidiau eraill y DU, roedden nhw i gyd yn meddwl fod hyn yn bwysig iawn. Gadewch i ni setlo'r cwestiwn yma o wahanu ac yna edrych ar ddatganoli."
Dywedodd Mr Cameron hefyd y bydd y cwestiwn 'A ddylai Aelodau Seneddol yr Alban yn San Steffan bleidleisio ar ddeddfau nad ydynt yn effeithio arnynt' yn cael ei drafod os fydd datganoli pellach i'r Alban..