Dirwy yn unig i ddyfarnwr am oryrru

  • Cyhoeddwyd
Nigel OwensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Nigel Owens wedi dyfarnu mewn sawl Cwpan Rygbi'r Byd a rowndiau terfynol Cwpan Heineken

Mae'r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens wedi cael dirwy yn unig wedi iddo gael ei ddal yn gyrru'n rhy gyflym ar yr M4.

Ond ni chafodd bwyntiau ar ei drwydded yrru wedi iddo ddweud wrth ynadon ei fod wedi gorfod brysio i dŷ bach oherwydd cyflwr meddygol.

Cafodd Nigel Owens, 43 oed, ei ddal yn gwneud 57mya mewn ardal 50mya ar yr M4.

Apeliodd Owens, o Bontyberem yn Sir Gaerfyrddin, yn erbyn cael pwyntiau ar ei drwydded yn llys ynadon Abertawe, a bu'n rhaid iddo dalu £205 mewn dirwyon a chostau.

Dywedodd wrth y llys fod ganddo "gyflwr meddygol ers tro" sy'n ei orfodi i gymryd meddyginiaeth.

Roedd yn gyrru i ddyfarnu gêm ym Mhontypridd ar 26 Rhagfyr 2013 pan gafodd ei gar BMW ei weld yn mynd yn rhy gyflym.

Roedd ganddo chwe phwynt cosb ar ei drwydded yn barod, a dywedodd cadeirydd yr ynadon Alun Williams wrtho:

"Ar ôl ystyriaeth ofalus rydym wedi penderfynu peidio rhoi pwyntiau cosb pellach ar eich trwydded oherwydd yr amgylchiadau arbennig."

Roedd y dyfarnwr wedi apelio yn erbyn y pwyntiau er mwyn osgoi gwaharddiad posib rhag gyrru yn y dyfodol.

Dywedodd wrth y llys: "Rwy'n cael pigiadau i geisio delio gyda'r broblem... fe wnaeth hynny effeithio ar y cyflymder yr oeddwn i'n gyrru pan gefais fy nal dros yr uchafswm cyflymder."