Staff Prifysgol Aberystwyth i streicio ar ddechrau tymor

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Bydd staff yn gweithredu wrth i fyfyrwyr gyrraedd ar gyfer y tymor newydd

Mae aelodau undeb ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y byddan nhw'n streicio am bedwar diwrnod yn olynol yr wythnos hon, ar ddechrau'r tymor newydd.

Bydd staff yn gweithredu rhwng 19-22 Medi oherwydd anghydfod ynglŷn â phensiynau.

Mae gorymdaith a rali hefyd wedi cael eu trefnu ar gyfer dydd Sadwrn.

Meddai Simon Dunn, trefnydd rhanbarthol undeb Unsain:

"Rydym wedi amseru'r streiciau i gydfynd â dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, wrth i fyfyrwyr newydd gyrraedd Aberystwyth.

"Mae'n amser hollbwysig o'r flwyddyn i'r Brifysgol, fydd yn gobeithio gwneud argraff dda ar fyfyrwyr newydd wrth iddyn nhw gyrraedd i ddechrau ar eu gyrfa academaidd.

"Roedd pob un o'r undebau wedi ystyried yn ddwys cyn penderfynu streicio ar ddechrau'r tymor newydd. Mae'r Brifysgol yn dibynnu ar ffioedd myfyrwyr i ariannu eu gweithgareddau. Os ydy Aberystwyth yn cael enw drwg, fe fydd yn niweidio'r Brifysgol.

"Mae ein haelodau eisiau gweld y Brifysgol yn mynd o nerth i nerth, yn lle gwych i astudio, ond dydy hi ddim yn dderbyniol bod hyn yn digwydd yr un pryd â thoriadau enfawr i bensiynau ein haelodau.

"Mae angen i Aberystwyth fod yn lle da i weithio os ydyw eisiau darparu gwasanaethau gwych i fyfyrwyr.

"Rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn deall pam ein bod yn gorfod gweithredu dros y mater hwn, ac yn cefnogi ein brwydr gyda'r Brifysgol."

Ymateb

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ddatganiad yn ymateb i'r cyhoeddiad, gan ddweud:

"Mae'r Brifysgol yn hynod o siomedig bod nifer fechan o staff wedi dweud eu bod yn bwriadu cymryd camau diwydiannol. Wrth barchu yn llawn hawl unigolyn i streicio, mae targedu'r penwythnos y bydd y Brifysgol yn croesawu ei myfyrwyr newydd yn mynd yn erbyn yr holl waith caled a wnaed gan gydweithwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i adeiladu perthynas a denu myfyrwyr i Aberystwyth.

"Ar ôl ymgyrch Clirio lwyddiannus, a'r newyddion fod Aberystwyth o fewn y 20 uchaf yn y DU am y Brifysgol gyda'r 'argraff gyntaf gorau', mae'r weithred hwn yn ceisio taro prif fusnes y Brifysgol.

"Mae hyn yn fygythiad posibl i gynaliadwyedd y Brifysgol yn y dyfodol, ac yn anelu at greu pryder i fyfyrwyr newydd, a all fod oddi cartref am y tro cyntaf, a'u teuluoedd.

"Yn dilyn ymgynghoriad llawn â staff ac undebau llafur, cymerodd Cyngor y Brifysgol y penderfyniad i gau Cynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth ym mis Mehefin.

"Ni fydd y Brifysgol yn newid y penderfyniad hwn ac rydym yn croesawu'r cyfraniad presennol o undebau llafur yn y broses o gaffael cynllun newydd.

"Ni all y gweithredu diwydiannol gael unrhyw effaith ar y penderfyniad hwn, sydd eisoes wedi ei gymryd, a bydd llawer o gydweithwyr yn gweithio'n galed i leihau unrhyw aflonyddwch i'r croeso ar gyfer ein myfyrwyr newydd ac i'r rhai sy'n dychwelyd."