Alban: Addo 'trafodaethau cyfeillgar'
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi addo cynnal "trafodaethau cyfeillgar" gyda gweddill y Deyrnas Unedig os yw'r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yfory.
Dywedodd Mr Salmond wrth y BBC mai'r ornest oedd "yr ymgyrch mwya' rhyfeddol" yn hanes yr Alban - ond nad oedd e'n cymryd y canlyniad yn ganiataol.
Fe fyddai gwleidyddion o bob plaid yn cael gwahoddiad i drafod termau annibyniaeth "ar ran Tîm yr Alban", dywedodd.
"Fe fydda i'n gwahodd pobol ar draws y sbectrwm wleidyddol i fod yn rhan o'r Tim yna, fel ein bod ni'n gallu trafod mewn ffordd gyfeillgar gyda'n cymdogion a gweddill y DU er mwyn cyrraedd setliad synhwyrol a'r setliad gorau i'r Alban."
Mae'r ddwy ochr yn ymladd yn ffyrnig ar ddiwyrnod ola'r ymgyrch i geisio perswadio'r rhai sydd heb benderfynu eto.
52% i 48%
Cyhoeddwyd tri arolwg barn newydd, un gan Opinium ar ran y Daily Telegraph, un arall gan ICM ar ran y Scotsman a'r trydydd gan Survation ar ran y Daily Mail, ar nos Fawrth.
Wedi di-ystyru'r sawl sydd heb benderfynu, awgrymodd pob un for yr ochr 'na' ar y blaen o 52% i 48%.
Yn ôl Owen Smith, llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan, dim ond "gwleidyddion cendlaetholgar" a'r "cyfoethog" fyddai'n elwa ar annibyniaeth.
Mae'n ymgyrchu yn Glasgow a dywedodd y byddai'r cyfansoddiad yn newid beth bynnag fyddai'r canlyniad "gyda mwy o bwerau i Gymru, Yr Alban a Lloegr."
"Rhaid cofio bod newidiadau fel sefydlu'r Wladwriaeth Les, isafswm cyflog neu'r Gwasanaeth Iechyd wedi digwydd am fod gweithwyr Prydain wedi cydweithio."
Gwrthod
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb y byddai'n annog "ein cefndryd Albanaidd" i wrthod "gwahanu."
"Rydym ar fin cychwyn pennod newydd yn ein hanes cyfansoddiadol ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yr Alban yn penderfynu ymuno â phobl Cymru wrth lunio dyfodol y Deyrnas Gyfunol."
Mae Plaid Cymru wedi dadlau y byddai annibyniaeth yn "golygu cynnydd cymdeithasol allai fod yn esiampl i bawb ar yr ynysoedd hyn.
"Mae pleidlais yfory'n gyfle i droi'r weledigaeth yn ffaith.
"Byddai pleidlais Ie yn sicrhau gwerthoedd gwreiddiol y Gwasanaeth Iechyd i bobl yr Alban.
"Hwn yw'r peth mwya gynigiodd Cymru i'r byd ond mae o dan fygythiad oherwydd preifateiddio yn Lloegr a thoriadau cyllideb yn yr Alban a Chymru."
'Tangyllido'
Ddydd Mawrth dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai Llafur yn mynd i'r afael â "thangyllido" os ydyn nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol.
Roedd arweinwyr tair prif blaid Prydain wedi addo cadw at fformiwla Barnett.
O dan y drefn bresennol mae'r Alban yn derbyn mwy o wariant y pen na'r hyn sy'n cael ei wario ar gyfartaledd yn y Deyrnas Gyfunol.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod y fformiwla'n golygu bod Cymru ar ei cholled o £300m y flwyddyn.