Gêm bwysicaf erioed i ferched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jess Fishlock in action against England's Demi StokesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Jess Fishlock: Rhaid ennill i gael unrhyw obaith

Bydd tîm merched Cymru yn wynebu eu gêm fwyaf erioed - gêm mae'n rhaid iddyn nhw ennill yn erbyn Wcráin er mwyn cael unrhyw obaith o gyrraedd Cwpan y Byd.

Pe bai Cymru yn ennill a'r Ffindir yn colli yn erbyn Ffrainc, yna fe fyddai merched Cymru yn mynd drwodd i'r gemau ail gyfle.

Mae Wcráin yn ail yng Ngrŵp Chwech gyda Chymru yn drydydd ond mae'r ddau dîm yn gyfartal ar bwyntiau.

Dywedodd Capten Cymru Jess Fishlock fod rhaid ennill yn Lviv:

"Pwy bynnag sydd am fynd trwodd i'r gemau ail gyfle, mae'n rhaid i ni ennill," meddai Fishlock, sydd ar fenthyg i FFC Frankfurt.

Lloegr oedd yn fuddugol yn ngrŵp Cymru, sef Grŵp Chwech.

Fe fydd saith o enillwyr y grwpiau yn mynd drwodd i Gwpan y Byd, sy'n cael ei gynnal yng Nghanada'r haf nesaf.

Fe fydd pedwar o'r timau sy'n gorffen yn ail yn eu grŵp, a chyda'r record orau, yn ennill yr hawl i gystadlu yn y gemau ail gyfle.