Caerdydd 0-1 Middlesbrough

  • Cyhoeddwyd

Mae'r pwysau yn cynyddu ar Ole Gunnar Solskjær ar ôl i Gaerdydd golli eu hail gêm gartref yn olynol.

Sgoriodd Kike i Boro' ar ôl dim ond 95 eiliad, a hynny o groesiad Albert Adomah.

Yn hwyr yn y gêm daeth cyfle gorau Caerdydd a hynny i Juan Cala, ond aeth ergyd yr amddiffynnwr heibio'r postyn.

Ar ôl hynny fe wnaeth yr ymwelwyr wrthsefyll saith munud o amser sy'n cael ei ganiatau am anafiadau ac o bwyso gan Gaerdydd er mwyn sicrhau tri phwynt.