Adroddiad: pobl ifanc 'ddim angen' cynllun gwaith llywodraeth
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad annibynnol ar un o brif gynlluniau swyddi Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn debygol y byddai'r rhan fwyaf o bobl wedi dod o hyd i waith heb y cynllun.
Cafodd Twf Swyddi Cymru ei lansio yn 2012, ac mae'n talu am gyfleodd gwaith chwe mis o hyd i bobl rhwng 16-24 oed.
Mae adolygiad o'r gwasanaeth gan ymchwilwyr Ipsos Mori yn awgrymu y byddai 73% o bobl oedd yn rhan o'r cynllun wedi dod o hyd i waith heb gymorth.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r adroddiad yn dangos pa mor "aneffeithiol" yw'r cynllun, ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y cynllun yn un gwerthfawr.
Cynllun 'aneffeithiol'
Er i'r adroddiad awgrymu y byddai pobl ifanc yn cael gwaith heb gynllun Twf Swyddi Cymru, mae'n nodi bod pobl ifanc yn fwy tebygol o aros yn y swydd am gyfnod hirach gyda'r cynllun.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod y cynllun wedi annog cyflogwyr i "ehangu eu gweithluoedd yn gyflymach na fydden nhw fel arall".
- Cafodd Twf Swyddi Cymru ei lansio yn 2012, gyda'r bwriad o greu 16,000 o gyfleoedd gwaith newydd erbyn 2016;
- Hyd yn hyn mae bron i 12,000 o bobl ifanc wedi cael profiad gwaith drwy'r cynllun;
- Mae'r cynllun yn rhoi chwe mis o waith, wedi ei dalu ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu well, neu fwrsariaeth o £6,000 i ddechrau busnes eu hunain;
- Yn y pendraw, y bwriad yw i bobl ifanc symud i waith llawn amser neu hunan gyflogaeth.
'Hynod o falch'
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod Twf Swyddi Cymru wedi pasio ei dargedau, a'u bod yn "falch iawn" o'r cynllun.
Maen nhw'n honni bod y cynllun wedi helpu i bobl gael swyddi yn gynt na fydden nhw wedi fel arall, gan roi "sicrwydd" i gyflogwyr.
Ond, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymosod ar y cynllun, gan ddweud bod yr adroddiad yn un damniol.
Dywedodd llefarydd y blaid ar yr economi, Eluned Parrott: "Mae adroddiad Llywodraeth Lafur Cymru wedi taflu golau ar Twf Swyddi Cymru, gan ddangos pa mor aneffeithiol yw eu cynllun yn y bôn.
"Mae'r ffaith y byddai tri chwarter o'r bobl ifanc ar y cynllun wedi cael gwaith hebddo yn dangos eu bod wedi dysgu dim o'i gamgymeriadau yn y gorffennol.
"Drwy wastraffu arian gwerthfawr ar bobl nad ydyn nhw angen cefnogaeth, maen nhw'n methu'r miloedd o bobl ifanc yng Nghymru sydd wir ei angen.
"Nid yw'r cynllun yma wedi gwneud dim i helpu'r bobl ifanc sydd wedi eu datgysylltu fwyaf ac yn wynebu'r anfantais fwyaf..."
'Canfyddiadau positif'
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod sylwadau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn "anwybyddu llwyddiant Twf Swyddi Cymru".
Dywedodd y dirprwy weinidog dros sgiliau, Julie James: "Ers i Twf Swyddi Cymru ddechrau mae'r targedau wedi eu pasio, mae cerrig milltir wedi eu cyrraedd ac yn fwy pwysig, mae bron i 12,000 o bobl ifanc yng Nghymru wedi cael gwaith ystyrlon, sydd wedi ei dalu.
"Rydyn ni yn hynod o falch o'r hyn mae'r cynllun wedi ei gyflawni.
"Mae gan yr adolygiad annibynnol rhai canfyddiadau positif iawn ac mae'n cadarnhau'r rhesymau y tu ôl i lwyddiant Twf Swyddi Cymru.
"Byddwn yn ystyried argymhellion yr adroddiad a lle mae gwelliannau i'w gwneud byddwn yn gwneud hynny. Rydyn ni mewn sefyllfa gref i sicrhau bod y cynllun yma yn parhau i lwyddo i'n pobl ifanc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2013