Llofruddiaeth: Cyhuddo dyn

  • Cyhoeddwyd
Karen CatherallFfynhonnell y llun, via Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Karen Catherall yn 45 oed ac yn fam i ddau o blant

Mae dyn 47 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio mam i ddau o'r Wyddgrug.

Fe gafwyd hyd i Karen Catherall wedi marw yn ei chartref yn ardal Gwernaffield ddydd Sul.

Roedd ganddi anafiadau i'w phen ac roedd hi wedi cael ei thagu.

Ddydd Llun, fe ohiriodd crwner gogledd ddwyrain Cymru y cwest i'w marwolaeth.

Bydd Darren John Jeffreys, sy'n dod o'r ardal, yn ymddangos gerbron ynadon yn Wrecsam fore Mercher.