URC: Rheolau newydd i anafiadau pen

Jason Robinson Image copyright Getty Images

Mae angen rheolau llymach i ddelio gydag anafiadau cyfergyd (concussion) ymysg chwaraewyr rygbi, meddai Undeb Rygbi Cymru.

Mae URC am weld chwaraewyr yn gadael y maes yn syth er mwyn derbyn triniaeth feddygol, os oes amheuaeth eu bod nhw wedi dioddef cyfergyd.

Daw'r canllawiau newydd yn rhan o ddogfen 'Concussion, Recognise and Remove' yr undeb.

Mae'n galw ar glybiau ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth am symptomau cyfergyd.

Bron i flwyddyn yn ôl, fe ddywedodd cyn ymgynghorydd meddygol y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) fod angen gwneud mwy i ddiogelu chwaraewyr rhag beryglon cyfergyd.

Roedd Dr Barry O'Driscoll eisiau gweld hyfforddwyr a chwaraewyr rygbi ar lawr gwlad yn derbyn hyfforddiant gorfodol ar ymwybyddiaeth cyfergyd.

'Cam enfawr ymlaen'

Mae URC yn dweud fod y ddogfen ddiweddara' wedi ei pharatoi yn rhan o ganllawiau IRB, a bydd yn cael ei hanfon ar glybiau ledled y wlad.

Mae'r ddogfen yn nodi y dylid cynllunio 'rhaglen dychwelyd-i-chwarae' i chwaraewr sy'n dioddef cyfergyd.

Fe ddywedodd rheolwr meddygol URB, Prav Mathema fod y canllawiau yn "gam enfawr ymlaen" i'r gêm

"'Dy ni eisiau i gymaint o bobl â sy'n bosib ymhob clwb, i fod yn ymwybodol o'r canllawiau a'r cymorth - er mwyn i'r cynllun ddod yn ffordd effeithiol i ddelio gyda chyfergyd," meddai.

Image caption Bu farw Ben Robinson wedi gêm rygbi

Ychwanegodd pennaeth rygbi URC, Josh Lewsey: "'Dy ni wedi gweithio'n galed i greu'r rhaglen, ac fe allwn ni fod yn falch o safon y canlyniad."

Mae tad bachgen o Ogledd Iwerddon - fu farw yn chwarae rygbi i'w dîm ysgol - yn galw am godi ymwybyddiaeth cyfergyd mewn ysgolion.

Fe gafodd Ben Robinson, 14 oed, ei daro'n anymwybodol a dioddef cyfergyd yn ystod gêm, ond fe wnaeth o barhau i chwarae.

Fe lewygodd eto cyn diwedd y gêm, a bu farw yn yr ysbyty.

Yn ôl ei dad, Peter, fe fyddai wedi goroesi petai o wedi dod oddi ar y cae yn syth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.