Cyrch terfysgaeth: Cymryd offer o dŷ
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu gwrth-derfysgaeth wedi cynnal cyrch ar eiddo yng Nghaerdydd, gan gymryd "nifer o eitemau" o dŷ.
Fe fu swyddogion o Uned Gwrth Derfysgaeth y Gogledd Orllewin (NWCTU) ac Uned Eithafiaeth a Gwrth Derfysgaeth Cymru (WECTU) yn chwilio yn yr eiddo ar Stryd Dogfield yn ardal Cathays.
Mae'r cyrch yn rhan o ymchwiliad sydd eisoes ar droed.
Fe ddywedodd y dirprwy brif gwnstabl, Nikki Holland:
"Mae Heddlu'r De yn falch o gysylltiadau cryf gyda'n cymunedau lleol, ac mae'u cydweithrediad yn hanfodol i wneud yn siŵr ein bod ni'n taclo radicaliaeth ac eithafiaeth yn effeithiol gyda'n gilydd."
Ychwanegodd bod yr ymgyrch i rwystro'r bygythiad wedi arestio 37 o bobl ers 2010, ac wedi chwilio nifer o adeiladau.
Dywedodd fod y troseddwyr wedi cael eu canfod yn euog ymhob achos aeth i'r llys, a bod y ddedfryd hiraf hyd yn hyn yn 17 mlynedd.
"Dyw'r mater ddim yn unigryw i Gaerdydd na Chymru, ac mae'n flaenoriaeth i heddlu ledled y DU," meddai.
"Mae'r awgrym fod gan Gaerdydd broblem benodol gyda dynion ifanc ac eithafiaeth yn gwbl anghywir."