Karen Catherall: Teyrnged teulu
- Cyhoeddwyd

Wedi i Karen Catherall gael ei chanfod wedi marw yn ei chartref yng Ngwernaffield, Yr Wyddgrug ddydd Sul, mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddi
Roedd gan Ms Catherall - oedd yn 45 oed - anafiadau i'w phen, ac roedd hi wedi cael ei thagu.
Mewn datganiad, fe ddywedodd ei theulu:
"'Dy ni i gyd wedi'n synnu a'n tristhau gan farwolaeth sydyn a thrasig Karen annwyl.
"Roedd hi'n fam, merch, chwaer a modryb gariadus, ac yn ffrind i lawer.
"Roedd Karen yn llawn bywyd, wastad yn chwerthin a doedd 'na byth foment ddiflas yn ei chwmni. Fe fydd hiraeth mawr ar ôl Karen, ac fe fyddwn ni'n ei chadw yn ein calonnau am byth."
Fore Mercher, fe gafodd dyn 47 oed ei gyhuddo o lofruddio Ms Catherall.
Mae disgwyl i Darren John Jeffreys, sy'n dod o'r ardal, ymddangos gerbron ynadon yn Wrecsam yn ystod y dydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2014
- Cyhoeddwyd15 Medi 2014