Diweithdra yn aros yn ei unfan yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Byd Gwaith

Fe wnaeth nifer y di-waith yng Nghymru aros yn ei unfan rhwng Mai a Gorffennaf ar 96,000, sef 6.7%.

Yn y DU mae diweithdra wedi gostwng i ychydig dros ddwy filiwn, 6.2%, y lefel isaf ers 2008.

Yn gynharach yn y flwyddyn roedd graddfa diweithdra Cymru yn adlewyrchu'r lefel yn y DU, ond dyw'r ffigyrau ar gyfer y tri mis diwethaf heb fod cystal.

O'i gymharu â'r un pryd y llynedd mae'r ffigyrau diweddara' yn dangos fod cyfanswm nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 22,000.

Ym mis Awst, gostyngodd diweithdra ymysg pobl ifanc 600.

Mae nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio am Waith (JSA) wedi gostwng 2,300 - dyma'r gostyngiad unigol mwyaf ers 1997.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

"Mae'n arbennig o galonogol gweld diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i ostwng.

"Mae yna nifer fawr o heriau yn dal i wynebu ein economi.

"Dyma pam ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn cadw at ein cynllun economaidd hirdymor i greu'r amodau cywir ar gyfer twf a swyddi yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru:

"Mae'r ffigyrau yn dangos fod canran y gweithlu sy'n hawlio Lwfans Ceisio am Waith (JSA) yn parhau i ostwng, ac mae o ar ei lefel isaf ers 2008.

"Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod y raddfa diweithdra yn llai na'r un adeg y llynedd, gyda diweithdra ymhlith pobl ifanc yn gostwng yn gynt yng Nghymru nag yn y DU."