BBC Cymru Fyw

Achos llofruddiaeth: cadw dyn yn y ddalfa

Published
image copyrightvia Facebook
image captionRoedd Karen Catherall yn 45 oed ac yn fam i ddau o blant
Mae dyn 47 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio dynes 45 oed yn Sir Y Fflint.
Cafwyd hyd i gorff Karen Catherall yn ei chartref yng Ngwernaffield, ger yr Wyddgrug, ddydd Sul.
Fe wnaeth Darren Jeffreys ymddangos gerbron ynadon yn Wrecsam.
Yn ystod y gwrandawiad a barodd dau funud, fe wnaeth o siarad i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgryg ar Fedi 26.
Fe wnaeth cwest i farwolaeth Ms Catherall gael ei agor a'i ohirio dydd Llun.
Roedd hi wedi cael ei thagu ac roedd ganddi anafiadau i'w phen.
Clywodd y cwest fod ei marwolaeth wedi ei achosi gan drawiad trwm i'r pen, a mygu.

Straeon perthnasol

  • Karen Catherall: Teyrnged teulu